Fe wnaeth cynrychiolwyr grwpiau rhanbarthol cyfansoddedig YesCymru bleidleisio o blaid pleidlais o ddiffyg hyder yn y Pwyllgor Canolog dros y penwythnos, yn ôl datganiad sydd wedi’i anfon at golwg360.

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Arbennig (CCA) yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf i ethol Pwyllgor Canolog newydd.

Ysgogiad yr alwad am gynnal CCA a phleidlais o ddiffyg hyder oedd y pryder cynyddol gan y grwpiau rhanbarthol cyfansoddedig, a’r aelodaeth ehangach, ynghylch trywydd y Pwyllgor Canolog yn ddiweddar, meddai’r grwpiau mewn datganiad.

Ddydd Sadwrn (Gorffennaf 31), fe wnaeth Pwyllgor Cenedlaethol YesCymru gyfarfod yn rhithiol, fel rhan o drefn arferol YesCymru.

Roedd cynrychiolwyr o Bwyllgor Canolog YesCymru a chynrychiolwyr o grwpiau rhanbarthol cyfansoddedig y mudiad yn bresennol.

Cafodd yr alwad am gynnal CCA ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Canolog cyn y cyfarfod, meddai’r datganiad, ac fe bleidleisiodd y grwpiau yn ddigamsyniol dros y bleidlais o ddiffyg hyder yn y Pwyllgor Canolog presennol.

“Y bennod nesaf”

Yn ôl datganiad ar ran y grwpiau, rhaid denu ystod eang o ymgeiswyr er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o aelodau’r mudiad, a bydd mesurau trylwyr yn cael eu cyflwyno i sicrhau bod cynifer ag sy’n bosib o’r 18,500 o aelodau’n cael cyfle i gymryd rhan yn y bleidlais.

“Ystyriwn y dyfodol agos fel cyfle cyffrous i ailosod ac i ganolbwyntio unwaith eto ar neges ganolog YesCymru, sef annibyniaeth i Gymru,” meddai’r datganiad ar ran y grwpiau rhanbarthol cyfansoddedig.

“Dyna, uwchlaw pob dim, yw ein rheswm dros fod, wedi’r cyfan.

“Mae YesCymru yn edrych ymlaen i’r bennod nesaf yn ei hanes, ac i adeiladu ymhellach ar y don enfawr o gefnogaeth sydd wedi adeiladu yn y blynyddoedd diweddar, ac i atseinio yr alwad i sefydlu Cymru fel gwlad annibynnol, a chynhwysol, i’w thrigolion i gyd – i bawb a ddymuna alw Cymru yn gartref iddynt.”

Cyfarfod Cyffredinol Arbennig

Mae Pwyllgor Canolog YesCymru wedi dweud y bydd CCA yn yr hydref, lle bydd nifer o newidiadau cyfansoddiadol yn cael eu cynnig.

I gyd-fynd â’r CCA, bydd yr aelodau sydd yn dal ar y pwyllgor yn rhoi cyfle i’r aelodaeth ethol Pwyllgor Canolog ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau rhoi’r hawl i’r “aelodaeth gyfan” ddweud eu dweud.

“Rhwng nawr a’r CCA byddwn yn ymofyn enwebiadau ar gyfer y 12 sedd, ac yna’n agor y cyfnod pleidleisio yn dilyn y cyfarfod,” meddai’r Pwyllgor Canolog wrth egluro sut y byddan nhw’n sicrhau bod gan yr holl aelodau yr hawl i bleidleisio.

“Bydd yr etholiad ar-lein yn aros ar agor am gyfnod o wythnos a bydd ar gael i bawb sy’n aelodau pan fydd yr etholiad yn cael ei alw, ni waeth a wnaethant fynychu’r CCA ai peidio.

“Ar gyfer y nifer fach o aelodau na allwn gysylltu â nhw trwy e-bost, byddwn yn anfon pleidleisiau post.

“Byddwn hefyd yn cynnig dull pleidleisio ffafriol ar gyfer ethol aelodau, yn hytrach na ‘cyntaf i’r felin’. Bydd yr etholiad yn cael ei redeg gan wasanaeth pleidleisio etholiad allanol.

“Rydym nawr yn annog pob aelod i’n cefnogi fel pwyllgor ymadawol yn y dasg o redeg y sefydliad rhwng nawr a’r CCA, fel y gallwn ni – gyda chymorth y grwpiau a’r aelodau – roi newidiadau cadarnhaol ar waith, yn barod ar gyfer y pwyllgor nesaf.

“Fel mudiad annibyniaeth ehangach, rhaid i ni ddangos parch at ein gwahaniaethau o fewn mudiad amhleidiol a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n ein huno – yr awydd am Gymru annibynnol.”

Aelodau YesCymru i gael y cyfle i ethol Pwyllgor Canolog newydd

“Rydym eisiau rhoi’r hawl i’r aelodaeth gyfan i ddweud eu dweud, felly dyma beth y byddwn yn ei wneud”