Mae hediadau newydd rhwng Caerdydd a Chaeredin yn dechrau heddiw (dydd Llun, Awst 2).

Bydd awyrennau Loganair yn hedfan rhwng Cymru a’r Alban bum gwaith yr wythnos, gyda’r gyntaf yn gadael Caeredin am 2:30yp ac yn dychwelyd am 4:20yp.

Roedd disgwyl i’r hediadau hyn gael eu cyflwyno y llynedd, ond fe gawson nhw eu gohirio tan nawr.

Fe aeth Flybe, a oedd yn cynnig hediadau rhwng Cymru a’r Alban, i’r wal fis Mawrth y llynedd, a bydd y teithiau newydd hyn yn llenwi’r bwlch hwnnw, yn ôl Loganair.

Mae disgwyl i’r daith rhwng Caerdydd a Chaeredin gymryd oddeutu awr a 25 munud.

Wrth gyhoeddi’r hediadau newydd yn 2019, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Loganair, y cwmni Albanaidd, eu bod nhw’n edrych ymlaen at gyflwyno’r gwasanaeth.

“Rydym hefyd wedi cyffroi o gael dechrau gwasanaethu Caerdydd, gan redeg teithiau rhwng dinasoedd mwyaf yr Alban a Chymru – llwybr sydd yr un mor bwysig ar gyfer busnes ag ydyw ar gyfer hamdden,” meddai Jonathan Hinkles, rheolwr gyfarwyddwr Loganair, ar y pryd.

“Wrth i’r cwmni awyr barhau i dyfu, rydym yn edrych o hyd am ffyrdd o wella’r cysylltiadau a chyfleustra ar gyfer ein cwsmeriaid.”