Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd plant 16 ac 17 yn cael derbyn brechlyn Covid-19.

Roedd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori heddiw (4 Awst) y dylid cynnig y dos cyntaf o’r brechlyn i bawb.

Hefyd, bydd y rhai sydd mewn grwpiau ‘risg’ yn cael derbyn dau ddos o’r brechlyn o heddiw ymlaen, yn cynnwys y rheiny sydd rhwng 12 a 15 oed.

Bydd y JCVI yn cyhoeddi cyngor ynghylch pa bryd i gynnig ail ddos iddyn nhw maes o law.

Mae’r Llywodraeth eisoes yn gwahodd pobl ifanc o fewn tri mis i’w penblwyddi’n 18 oed i gael y brechlyn.

Mae undeb y prifathrawon wedi dweud na ddylen nhw gael y cyfrifoldeb o hyrwyddo, gweithredu na rheoli’r broses o frechu disgyblion.

Ymateb y Gweinidog Iechyd

Mae tua 67,142 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru, ond mae rhai eisoes wedi cael eu brechu am eu bod yn un o’r categorïau risg uchel o ddal coronafeirws.

Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, eu bod yn croesawu’r newid i’r trefniadau presennol.

“Yn unol â chenhedloedd eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ac yn diolch iddynt am eu harbenigedd a’u barn ystyriol ar faterion mor bwysig,” meddai.

“Rydym bellach yn gweithio gyda’r GIG ar y trefniadau sydd eu hangen i gynnig y brechlyn i bob plentyn 16 ac 17 oed yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor.”