Mae teulu merch 15 oed a fu farw mewn parc gwyliau ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrngedau i “ferch ac wyres gariadus”.
Bydd teulu Amanda Selby, a oedd yn dod o ardal Manceinion, yn “ei cholli’n ofnadwy”, meddent mewn datganiad.
Bu farw Amanda Selby yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ger Abergele dros y penwythnos.
Mae ei brawd, Matthew Selby, 19 oed, wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyhuddiad o’i llofruddio.
“Roedd Amanda yn ferch ac wyres gariadus – roedd hi’n ofalgar, meddylgar, yn hoffi helpu eraill ac yn cael ei charu’n fawr,” meddai ei theulu.
“Byddwn yn ei cholli’n ofnadwy.”
“Disgybl hyfryd”
Dywedodd Droylsden Academy ym Manceinion eu bod nhw “wedi tristau o glywed y newyddion trasig” am Amanda Selby, a oedd yn ddisgybl yno.
“Mae teulu’r ysgol wedi ein llorio gan y newyddion ofnadwy yma,” meddai datganiad ar wefan yr ysgol.
“Roedd Amanda yn ddisgybl hyfryd a bydd disgyblion a staff yn gweld ei cholli yn arw.
“Yn amlwg, bydd nifer o aelodau o gymuned ein hysgol yn cael eu heffeithio gan y golled a byddwn ni’n cynnig cymorth i’r rhai sydd ei angen yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
“Byddwn ni hefyd yn cynllunio teyrnged pan fydd yr amser yn iawn, fel ein bod ni’n gallu cofio popeth wnaeth Amanda ei gynnig i’n hysgol.”
“Calonnau yn torri”
Dywedodd clwb jiu-jistu Kamiza Dojo ar gyrion Manceinion ei fod “wedi tristau o glywed y newyddion trasig bod un o’n disgyblion, Amanda Selby, wedi colli ei bywyd tra ar wyliau gyda’i theulu”.
“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’i theulu yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai’r clwb.
“Mae Amanda a’i mam wedi bod yn rhan fawr o’r clwb ers nifer o flynyddoedd – wastad yn dod i gefnogi’r clwb a’r disgyblion.
“Mae ein calonnau yn torri. Bydd Amanda yn cael ei cholli’n fawr.”
Ymddangosodd Matthew Selby yn y llys drwy gyswllt fideo fore heddiw (4 Awst) o Garchar Berwyn, Wrecsam.
Ni wnaeth roi ple, ond mae dyddiad dros dro wedi’i osod ar gyfer yr achos nesaf ar 28 Chwefror 2022.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 22 Medi.