Mae prisiau petrol ar eu huchaf ers wyth mlynedd a hynny wedi cynnydd cyson ym mhrisiau tanwydd dros y naw mis diwethaf.
Mae pris cyfartalog petrol nawr yn 135.13 ceiniog, lefel na welwyd ei thebyg ers 2013, yn ôl ffigyrau gan y Clwb Moduro Brenhinol (RAC).
Daw’r cynnydd ym mhrisiau tanwydd yn sgil codiad ym mhrisiau olew.
Mae pris disel hefyd ar ei uchaf ers 2014, gyda’r pris cyfartalog yn 137.06 ceiniog am litr.
“Mae prisiau dim ond yn cynyddu ar hyn o bryd – ac nid dyna mae gyrwyr am weld yn anffodus” meddai llefarydd ar ran y RAC, Simon Williams.
“Gyda mwy o bobl yn aros adref ar eu gwyliau eleni mae’n mynd i brofi’n gostus i lawer o deuluoedd sy’n defnyddio eu ceir dros yr haf,” meddai.
Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos fod yna 3.4 ceiniog yn ychwanegol ar bob litr o betrol yn ystod mis Gorffennaf sef y pris drytaf ar gyfer petrol ers mis Ionawr, ac fe ddringodd pris disel hefyd i 2.7 ceiniog y litr.
Gostwng
Mae’r RAC yn rhybuddio na fydd prisiau tanwydd yn gostwng yn y dyfodol agos.
Wrth i economi’r byd ddechrau gwella ar ôl y pandmeig fe fydd y galw ar gyfer tanwydd yn cynyddu.
Golyga hyn fod y cynnydd yn y galw am olew yn gyrru prisiau tanwydd yn uwch a modurwyr sy’n cael eu heffeithio’n bennaf yn sgil hynny.
“Rydyn ni dal mewn cyfnod o bandemig ac mae’r galw am olew yn debygol o barhau i gynyddu wrth i weithgarwch economaidd ailddrechau, ac mae hyn yn debygol o godi prisiau tanwydd,” meddai Simon Williams.
Rhybuddiodd, oni bai bod gwledydd mawr sy’n cynhyrchu olew yn penderfynu ar strategaeth newydd i gynyddu allbwn, fe allai prisiau ddringo hyd yn oed yn uwch erbyn diwedd yr haf.
Er gwaetha’r codiad mewn prisiau’n ddiweddar, nid yw’r ffigyrau’n agos at y prisiau a welwyd yn 2012.
Ym mis Ebrill 2012, cyrhaeddodd prisiau uchafbwynt o 142c y litr ar gyfer petrol a 148c ar gyfer disel
Mae’r RAC yn cynghori modurwyr i lenwi tanc o betrol mewn archfarchnadoedd yn hytrach na mewn gorsafoedd mewn gwasanaethau traffordd.
Mae’n debyg fod pris litr o betrol mewn archfarchnad tua 16c yn rhatach na mewn gorsafoedd mewn gwasanaeth traffordd.