Mae prynwyr tai yn parhau i dalu’n uwch na’r pris gofyn am eiddo yng Nghymru.

Mae hynny er bod y toriad ar dreth stamp wedi dod i ben ddechrau mis Gorffennaf.

Ar gyfartaledd, roedd tai yng Nghymru yn cael eu gwerthu am 100.4% o’r pris gofyn gwreiddiol, sef y ffigwr uchaf erioed yn ôl yr asiantaeth dai Hamptons.

Cyn 1 Gorffennaf, doedd dim rhaid talu treth stamp llawn ar eiddo o dan £500,000.

O’r dyddiad hwnnw, fe hanerodd y braced treth stamp o £500,000 i £250,000, ac o 1 Hydref, bydd yn dychwelyd i £125,000.

Distaw

Roedd arbenigwyr mewn eiddo yn adrodd bod toreth o brynwyr tai wedi trio cwblhau gwerthiannau cyn y dyddiad newid.

Mae Hamptons hefyd yn honni bod argaeledd isel mewn eiddo yn helpu i gadw prisiau’n uchel.

“Gorffennaf oedd y mis cyntaf ar ôl i’r toriad ar dreth stamp ddirwyn i ben,” meddai pennaeth ymchwil Hamptons, Aneisha Beveridge.

“Mewn amseroedd arferol, byddai’r wythnosau a’r misoedd yn dilyn toriad yn ddistaw iawn i’r farchnad, gyda llawer o brynwyr yn rhuthro i gwblhau cyn diwedd y toriad hwnnw.

“Ond y tro hwn, dydy hi ddim yn edrych fel bod y farchnad am gael ôl-effeithiau rhy niweidiol.”

Cystadleuol

Talodd 44% o brynwyr yn uwch na’r pris gofyn cychwynnol y mis diwethaf, gyda 30% yn gwario £1 miliwn neu fwy ar gartref newydd.

Yr amser cyfartalog i brynu cartref yng Nghymru ym mis Gorffennaf oedd 28 diwrnod, er bod llawer o brynwyr yn debygol o golli allan ar y toriad ar dreth stamp yn gyfan gwbl.

Ychwanegodd Hamptons bod brwydrau bidio yn parhau i fod yn gyffredin.

Roedd gan 40% o’r cartrefi a gafodd eu gwerthu yng Nghymru ym mis Gorffennaf gynigion gan dri neu fwy o brynwyr posib – 2% yn uwch na holl gartrefi’r Deyrnas Unedig am y mis hwnnw.

Dim ond 28% oedd gan dri neu fwy o gynigion ym mis Gorffennaf 2019, er bod hynny’n cwmpasu’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd y cwmni mai’r Alban yw’r farchnad fwyaf cystadleuol o hyd, gyda bron i hanner (48%) y cartrefi a gafodd eu gwerthu yno’r mis diwethaf efo tri chynnig neu fwy.