Mae’r Deyrnas Unedig wedi gosod sancsiynau economaidd ar Belarws, flwyddyn wedi etholiad “twyllodrus” pan ddaeth Alexander  Lukashenko i rym am y chweched tro.

Daw’r mesurau yn dilyn sancsiynau eraill ar rai o swyddogion Belarws ar ôl iddyn nhw orfodi awyren i lanio yn Minsk, prif ddinas Belarws, lle cafodd newyddiadurwr sy’n gwrthwynebu’r awdurdodau a’i gariad eu harestio.

Mae Swyddfa Dramor y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno pecyn o sancsiynau ariannol, masnach a hedfan heddiw (9 Awst) , gan ddweud mai ymyriadau ar hawliau dynol yn Belarws yw’r rheswm.

Golyga’r sancsiynau na all awyrennau Belarwsiaidd hedfan dros y Deyrnas Unedig na glanio yno, ac maen nhw’n gwahardd cwmnïau awyrennau’r Deyrnas Unedig rhag cynnig cymorth technegol i awyrennau moethus Arlywydd Belarws, Alexander Lukashenko.

Yn ôl y BBC, dywedodd Lukashenko y gall Prydain “dagu” ar eu mesurau, gan ddisgrifio’r Deyrnas Unedig fel “cŵn bach” i America.

‘Gwasgu’

“Mae cyfundrefn Lukashenko yn parhau i wasgu democratiaeth a thorri hawliau dynol ym Melarws,” meddai Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig.

“Mae’r sancsiynau hyn yn dangos na wneith y Deyrnas Unedig dderbyn gweithredoedd Lukashenko ers yr etholiad twyllodrus. Ni fydd cynnyrch gan ddiwydiannau sy’n perthyn i wladwriaeth Lukashenko yn cael eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig, a ni fydd ein cwmnïau awyrennau yn cyffwrdd ei awyrennau moethus.”

Bydd ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys tynhau’r embargos presennol ar arfau hefyd, meddai’r Llywodraeth, a bydd yr Unol Daleithiau’n cyhoeddi sancsiynau newydd.

Gêm gymhwysol Cwpan y Byd Cymru gyda Belarws wedi ei symud i “leoliad niwtral” yn Rwsia

Cymru yn wynebu dipyn o deithio eto ac yn chwarae dwy gêm o fewn pedwar diwrnod