Bydd Vodafone yn ail-gyflwyno costau trawsrwydweithio (roaming) i bobol o’r Deyrnas Unedig fydd yn teithio i Ewrop.

Roedd y cwmni wedi dweud nad oedden nhw’n bwriadu ailgyflwyno’r costau ar ôl Brexit, ond bydd hynny’n newid fis Ionawr nesaf.

Bydd rhaid i gwsmeriaid newydd a rhai sy’n uwchraddio dalu hyd at £2 y diwrnod ar gyfer defnyddio eu data, ffonio a thecstio yn Ewrop.

Daeth costau trawsrwydweithio wrth deithio drwy Ewrop i ben ym Mehefin 2017, gan ganiatáu i gwsmeriaid ddefnyddio eu pecynnau yn yr Undeb Ewropeaidd heb gostau ychwanegol.

Rhesymol

Dan gytundeb Brexit, dylai’r ddwy ochr “gydweithio ar hyrwyddo cyfraddau rhesymol a thryloyw” ar gyfer costau, ond doedd dim sicrwydd y byddai trawsrwydweithio’n parhau i fod yn rhad ac am ddim.

Fe wnaeth y prif rwydweithiau ffonau symudol – Vodafone, EE, Three ac O2 – ddweud nad oedden nhw’n bwriadu ailgyflwyno’r costau.

Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd EE eu bod nhw am ailgyflwyno’r costau.

Data

Fe fydd pobol dal i allu defnyddio eu data, ffonio a thecstio yng Ngweriniaeth Iwerddon heb gostau ychwanegol.

“Yn hytrach na bod ein holl gwsmeriaid yn cael eu heffeithio drwy ychwanegu costau ychwanegol trawsrwydweithio at ein holl dariffau, bydd cwsmeriaid yn gallu dewis cynllun sy’n cynnwys trawsrwydweithio, neu prynu pas trawsrwydweithio ychwanegol,” meddai llefarydd ar ran Vodafone.

“Ein nod yw sicrhau fod ein cwsmeriaid byth yn cael sioc wrth gael bil tra’n trawsrwydweithio gyda Vodafone, oherwydd bydd gan ein holl becynnau a phasiau gyfyngiadau clir, a bydd cwsmeriaid yn gallu gosod eu cyfyngiadau eu hunain drwy Vodafone Spend Manager, sy’n gallu cael ei osod am ddim drwy ap My Vodafone.”

Mae’n debyg y bydd cwmniau eraill yn cyflwyno newidiadau tebyg, gan ddilyn EE a Vodafone.