Mae adroddiad damniol wedi beirniadu adran gynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin am orwario bron i £2m y flwyddyn ers 2015.

Fis Mawrth eleni roedd 847 o geisiadau cynllunio a 761 o achosion gorfodaeth eto i gael sylw’r adran, gyda rhai yn dyddio ’nôl dros bum mlynedd, meddai’r adroddiad gan gorff Archwilio Cymru.

Dywed BBC Cymru eu bod nhw yn deall bod newidiadau wedi bod ymysg rhai o swyddogion yr adran a’u rôlau.

Mae’r adroddiad wedi gwneud 17 o argymhellion ar sut i wella perfformiad yr adran.

Methu

Roedd y Cyngor eisoes wedi cynnal adolygiad eu hunain, ac fe gafwyd 50 o argymhellion bryd hynny, ond mae’r adroddiad newydd yn dweud eu bod nhw wedi methu â gweithredu ar y rheiny.

Mae Cyngor Sir Gar yn dweud bod nifer o newidiadau ar waith i ymateb i ganfyddiadau’r adroddiadau hyn.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud, gyda rhai o’r rheiny eisoes ar waith.

“Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, rydym wedi ceisio adborth gan ein cwsmeriaid ac wedi gwrando arnynt i ddeall eu hanghenion a’u rhwystredigaethau,” meddai.

“Mae hyn wedi dod â nifer o feysydd allweddol i’r amlwg lle bydd newid sylweddol yn cael ei weithredu i wella’r gwasanaeth cynllunio.

“Mae’r gwaith hwn eisoes yn mynd yn ei flaen yn dda, ac mae tîm ymroddedig yn gweithio drwy systemau a gweithdrefnau i symleiddio’r ffordd yr ydym yn prosesu ceisiadau ac yn gorfodi’n effeithiol gan gefnogi datblygiad yn awr ac yn y dyfodol yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.”