Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhoi rhybudd i unigolyn i rwystro ei gŵn rhag poenydio da byw.
Dyma’r tro cyntaf maen nhw wedi gorfod cyhoeddi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned o’r math yma erioed.
Roedd yr unigolyn o Bowys wedi cael llythyr yn ei rybuddio fis Chwefror eleni am fod ei gŵn yn poeni da byw, ond roedd wedi cyflawni’r un troseddau eto.
Mae’r hysbysiad yn mynnu nad yw’r unigolyn yn mynd ar unrhyw dir preifat gyda chi a bod rhaid i unrhyw gi o dan ei reolaeth fod ar dennyn yn gyhoeddus, neu fe fydd camau cyfreithiol pellach yn cael eu hymlid.
O ddifri
Mae’r Rhingyll Matthew Langley wedi rhybuddio unrhyw un rhag poeni anifeiliaid.
“Fel heddlu sy’n bennaf wledig, yr ydym yn aml yn derbyn adroddiadau am dda byw’n cael eu poeni, ac mae’n drosedd yr ydym yn ei chymryd yn hollol o ddifri,” meddai.
“Er y bydd ffermwyr yn aml yn derbyn iawndal gan y perchnogion cŵn lle mae’r perchennog yn cael ei adnabod, nid yw hynny wir yn ystyried y gost o brynu neu fagu anifeiliaid eraill yn eu lle.
“Yr ydym yn aml yn cyhoeddi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg yn cynghori perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn a sicrhau bod mesurau diogelwch digonol gyda nhw mewn grym adref fel nad oes modd i’w cŵn ddianc.
“Er ein bod ni’n ceisio’n gorau i addysgu perchnogion cŵn, mae nifer dal yn meddwl nad oes dim o’i le mewn gadael i’w cŵn grwydro’n rhydd yng nghefn gwlad, hyd yn oed os yw’n amlwg bod da byw mewn caeau cyfagos.
“Mae’r llythyr rhybudd, a nawr yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, yn dangos y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol pan fod angen.”