Mae Cyngor Môn am ofyn barn pobol leol am gynlluniau i helpu amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd.
Mae cyfnodau cynyddol o law trwm iawn a lefelau uchel y môr yn parhau i achosi risg i gymuned arfordir Traeth Coch ger Benllech.
Bob blwyddyn bron, bydd llanw uchel yn dod dros y wal fôr gan achosi llifogydd ar y ffordd a’r glaswellt mewn nifer o wahanol rannau.
Ni lwyddodd y wal i atal Bwyty’r Boat House ac un eiddo preswyl rhag dioddef llifogydd ym mis Rhagfyr 2013.
Bellach, mae Cyngor Ynys Môn yn gofyn i drigolion a busnesau fynegi eu barn ar gynlluniau i gynyddu uchder y wal fôr bresennol.
Byddai’r wal yn cael ei chodi i uchder safonol o 6.06 metr uwchben lefel cymedr y môr, gan olygu ei chodi 0.9 metr ar gyfartaledd ar hyd tua 500 metr o’r ffrynt.
“Hanfodol”
Eglurodd y Cynghorydd Bob Parry, deilydd portffolio priffyrdd, eiddo a gwastraff Cyngor Ynys Môn, ei bod hi’n “hanfodol” gosod mesurau atal llifogydd.
“Gyda’r bygythiad cynyddol o newid hinsawdd a digwyddiadau cysylltiedig â’r tywydd, mae’n hanfodol ein bod yn gosod mesurau atal llifogydd er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau lleol.
“Rydym yn gweithio’n barhaus â phartneriaid er mwyn lleihau risg llifogydd ar yr Ynys ac mae’r cynlluniau ar gyfer Traeth Coch yn enghraifft arbennig o’r math o gynlluniau sy’n cael eu hymgymryd â nhw.
“Os ydych chi’n lleol i’r ardal neu’n rhan o gymuned Traeth Coch, mae’n bwysig eich bod yn mynegi barn a hoffem glywed gennych fel rhan o’r ymgynghoriad, sy’n dechrau’r wythnos hon.”
Mae Cyngor Môn wedi penodi Ymgynghoriaeth Gwynedd i ddylunio cynllun lliniaru llifogydd a fydd yn gallu darparu amddiffyniad uwch i gymuned Traeth Coch
Y gobaith yw dechrau ar y gwaith cyn mis Mawrth 2022, a mae posib i drigolion yr ardal lenwi’r arolwg ar-lein yma.