Mae’r cyfreithiwr sy’n cynrychioli cyhuddwr y Tywysog Andrew wedi ei rybuddio rhag anwybyddu llysoedd yr Unol Daleithiau.

Fe wnaeth cyfreithiwr Virginia Giuffre honni fod tîm cyfreithiol Dug Caerefrog wedi bod yn “rhwystro” apeliadau am wybodaeth hefyd.

Mae Virginia Giuffre wedi dwyn camau cyfreithiol yn erbyn y Dug gan honni iddo ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi yn ei harddegau.

Honnir ei bod wedi’i cham-drin yn rhywiol gan y Tywysog Andrew, pan oedd hi o dan 18 oed, yng nghartref Ghislaine Maxwell yn Llundain a chartref Jeffrey Epstein yn Efrog Newydd, ynghyd â lleoliadau eraill.

Mae’r Tywysog Andrew wedi gwadu’r honiadau yn y gorffennol, a dywedodd llefarydd ar ei ran nad oedd ganddo sylw pan ofynnwyd am ymateb i her gyfreithiol Virginia Giuffre.

Yn ôl y Daily Mail, gwelwyd y Dug yn cyrraedd Castell Balmoral neithiwr (10 Awst), a chredir fod ei gyn-wraig, Sarah Ferguson, yno hefyd yn ogystal a’r Frenhines Elizabeth.

“Anwybyddu”

“Mae hyn nawr yn fater i’r llysoedd benderfynu arno a byddai’n gyngor gwael i unrhyw un amharu’r llysoedd ffederal,” meddai David Boies, sy’n cynrychioli Virginia Giuffre.

Honnodd fod cyfreithwyr Dug Caerefrog heb gydweithio, gan ddweud eu bod nhw wedi “gwrthod cynnig unrhyw esboniad, maen nhw’n gwrthod cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau”.

“Maen nhw’n gwrthod cynnig unrhyw ffeithiau, maen nhw hyd yn oed wedi gwrthod ymateb i unrhyw un o’r honiadau sydd wedi cael eu gwneud mewn ffordd resymol. Yn syml, maen nhw wedi anwybyddu pob llythyr, pob galwad ffôn, pob cysylltiad rydyn ni wedi’i wneud.”

Cyfiawnder

“Dwi i’n meddwl ei bod hi’n disgwyl cyfiawnder” gan y broses gyfreithiol, meddai David Boies am Virginia Giuffre.

“Ei gobaith yw y bydd dal y camdrinwyr cyfoethog a phwerus yn atebol yn cael rhyw fath o effaith ar leihau’r siawns y bydd merched ifanc eraill yn dioddef yr hyn mae hi wedi’i ddioddef.”

Y Tywysog Andrew yw’r unig ddiffynnydd sydd wedi’i enwi yn yr achos sifil er bod y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein a’i gariad Ghislaine Maxwell yn cael eu crybwyll sawl gwaith hefyd.

Mewn cyfweliad gyda’r rhaglen Newsnight ym mis Tachwedd 2019, roedd y Tywysog Andrew wedi gwadu honiadau ei fod wedi cael rhyw gyda Virginia Giuffre ar dri achlysur ar wahân, ac nad oedd yn cofio cwrdd â hi.

Cafodd ei feirniadu’n chwyrn am ei ddiffyg empathi tuag at ddioddefwyr Jeffrey Epstein wedi’r cyfweliad ac roedd wedi rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau brenhinol ar ôl hynny.

Virginia Giuffre yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Dug Caerefrog

Mae hi’n honni iddi gael ei cham-drin gan y Tywysog Andrew yn Llundain ac Efrog Newydd