Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “gytuno i gyflogau uwch a gwell amodau” i weithwyr iechyd a gofal.
Dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar alwadau undebau am gymorth lles ychwanegol i staff er mwyn gwella cyfraddau absenoldebau gan roi “chwarae teg” i’r holl weithwyr, meddai.
Dangosa ystadegau newydd fod cyfraddau absenoldebau o fewn y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn codi’n araf ers 2018, ac wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig.
Datgelodd yr ystadegau fod y gyfradd absenoldeb salwch uchaf o 8.4% ymhlith staff y Gwasanaeth Ambiwlans.
Gwella yn “ddramatig”
Dylai newidiadau fod yn “rhan o brosiect ehangach i wella’r sector iechyd a gofal yn ddramatig fel cyflogwr”, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AoS.
“Mae’n amlwg fod y gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng mewn sawl rhan o Gymru, a bod y pandemig wedi effeithio arnynt yn sylweddol,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae absenoldebau staff ar eu lefel uchaf erioed, gyda blinder a straen yn gyffredin a diffyg cefnogaeth ar gael.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno i gyflogau uwch a gwell amodau gwaith i sicrhau bod gweithwyr yn medru parhau i weithio’n effeithiol a bod lefelau staff yn aros yn ddigon uchel.
“Dylai’r llywodraeth hefyd gweithredu ar alwadau gan undebau am gymorth lles ychwanegol,” ychwanegodd.
“Mae’n rhaid i hyn fod yn rhan o brosiect ehangach i wella’r sector iechyd a gofal yn ddramatig fel cyflogwr, fel bod chwarae teg yn cael ei roi i bob gweithiwr.”