Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymroi i warchod ysgolion gwledig a’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli, a hynny’n rhan o’u strategaeth i foderneiddio addysg yn y sir.
Roedd Cabinet y Cyngor wedi cyfarfod fore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 18) i ystyried yr amcanion polisi arfaethedig.
Mewn sylwadau gafodd eu paratoi ar gyfer y cyfarfod hwnnw, roedd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith wedi cynnig canmoliaeth i’r strategaeth.
Ond roedd y Gymdeithas wedi mynegi pryderon hefyd am y ffordd y bydd y cynllun newydd yn cael ei weithredu, yn enwedig yn sgil dadleuon diweddar dros ymdrechion Cyngor Sir Ceredigion i gau pedair ysgol wledig yn y fro honno.
Ymrwymo i wella cynaliadwyedd ysgolion gwledig
Mae’r strategaeth yn rhan o Raglen Moderneiddio Llywodraeth Cymru, sy’n galw am adolygiadau cyson ynghylch hyfwyedd ysgolion gan yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol amdanyn nhw.
Mae’r Cyngor yn nodi bod newidiadau demograffig sylweddol wedi cyfnod y pandemig yn golygu bod angen diweddaru ar ddarpariaeth ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ogystal, yn sgil pwysau chwyddiant a thoriadau cyllid, mae sawl ysgol yn y fro yn wynebu diffygion ariannol, sy’n cyfrannu at amheuon am eu hyfwyedd yn yr hirdymor.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau nad yw’r adolygiadau hyn yn peri gofid pellach i ysgolion gwledig Sir Gaerfyrddin, sydd eisoes wedi’u bygwth, mae’r strategaeth yn sôn bod “Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl gefnogol i wneud popeth yn ei allu i adeiladu cydnerthedd a chynaliadwyedd ei ysgolion gwledig yn y dyfodol”.
Mae hyn yn rhan o ragdybiaeth genedlaethol sy’n gorfodi awdurdodau lleol i ystyried opsiynau eraill cyn llunio cynnig i gau ysgolion gwledig.
Er bod y Cyngor yn nodi mai dim ond ysgolion sy’n ‘gynaliadwy’ o ran safonau addysg ac arweinyddol gaiff eu hamddiffyn gan y rhagdybiaeth hon, maen nhw hefyd yn gyndyn fod modd i’r Awdurdod Lleol gydweithio ag ysgolion sy’n bresennol yn anghynaliadwy er mwyn gwella’u safonau a dod yn gymwys i’w gwarchod.
Gall y gwelliannau hyn gynnwys:
- rhannu adnoddau neu gwricwlwm gydag ysgolion eraill cyfagos
- defnydd ehangach o strategaethau dysgu o bell er mwyn manteisio ar athrawon arbenigol
- hyrwyddo defnydd adeilad yr ysgol fel canolfan gymunedol.
‘Agwedd gadarnhaol’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi canmol cynlluniau’r Cyngor.
Mewn llythyr gafodd ei baratoi at y cyfarfod heddiw gan Ffred Ffransis, llefarydd Grŵp Addysg y Gymdeithas, cafodd y Cyngor glod am ddatgan yn glir fod “Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i gynnal a chryfhau ysgolion gwledig”.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn brwydro o blaid cynnal ysgolion gwledig, yn enwedig yn y Fro Gymraeg, ers y 1980au.
Roedd y Gymdeithas hefyd am glodfori’r holl opsiynau oedd wedi’u hamlinellu fel rhan o’r strategaeth fydd yn cael ei chynnig i ysgolion gwledig cyn i’r awdurdod lleol argymell eu cau.
Mae’r llythyr yn mynegi “agwedd… gadarnhaol tuag at y diwygiadau”.
Beirniadaeth
Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas hefyd yn nodi sawl mân feirniadaeth, neu ddiwygiadau pellach eto y gallai’r Cyngor ategu at y strategaeth.
Ymhlith y sylwadau hyn mae pryder bod y strategaeth arfaethedig yn cymell ysgolion i weithredu er eu budd eu hunain, yn hytrach nag er budd yr holl ardal leol.
Mae’r llythyr yn nodi y “gall llywodraethwyr ambell ysgol beidio â chydweithio oherwydd iddyn nhw ganfod y gall fod mantais (o ran symudiad disgyblion) i’w hysgol nhw os bydd ysgol gyfagos yn cau”, ac felly bod angen gwneud ysytriaethau pellach fesul ardal yn hytrach na fesul ysgol.
Mae’r llythyr hefyd yn awgrymu y dylai’r Cyngor fod yn hyrwyddo datblygu cronfeydd cymunedol fyddai’n medru cyflenwi darpariaeth cyfalaf i ysgolion gwledig lle nad oes gan yr awdurdod lleol gyllid.
Gwrthgyferbynnu agweddau yn Sir Gâr a Cheredigion
Yn ogystal, mae’r llythyr yn tynnu sylw at safonau’r Gymraeg fel iaith gymunedol neu iaith yr iard chwarae fel maen prawf ychwanegol wrth ystyried dyfodol ysgolion gwledig.
Daw hyn wedi beirniadaeth ddiweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg mai cyfrwng iaith addysg yn unig, ac nid gofynion cymunedol, oedd yn rhan o ystyriaethau Cyngor Sir Geredigion yn eu hasesiadau effaith ar gau pedair ysgol wledig (Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig-yr-Wylfa, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, ac Ysgol Syr John Rhys) yn y fro honno.
Bu’n rhaid i Gyngor Sir Geredigion ailwneud eu hasesiad effaith o ganlyniad.
Mae Cyngor Sir Geredigion eisoes yn destun cwyn swyddogol gan Gymdeithas yr Iaith i Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Addysg, nad yw eu hymdrechion wedi cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion a’r rhagdybiaeth ar ysgolion gwledig.
Yn ogystal â phryderu y gallai Cyngor Sir Gâr wynebu’r un trafferthion, fodd bynnag, mae’r Gymdeithas hefyd wedi gwrthgyferbynnu agweddau’r adolygiadau yn Sir Gaerfyddin â’r rheiny yn Sir Geredigion.
Wrth ganmol ymrwymiad Cyngor Sir Gâr i warchod ysgolion gwledig, nododd Ffred Ffransis fod Cyngor Ceredigion “wedi cychwyn o safbwynt angen i gwtogi ar y Gyllideb gyffredinol, ac yna edrych am ysgolion gwledig i’w cau fel targedau rhwydd”.