Bydd trenau trydan ‘tri-moddol’ cyntaf y Deyrnas Unedig yn dechrau cludo teithwyr heddiw (dydd Llun, Tachwedd 18).
Byddan nhw’n cael eu cyflwyno fel rhan o wasanaethau Metro De Cymru ar reilffyrdd y Cymoedd, gan ddechrau ar lein Merthyr ac Aberdâr ac yna ar lein Treherbert.
Y bwriad yw disodli trenau hŷn Trafnidiaeth Cymru, sydd eisoes wedi rhoi 65 o drenau newydd a saith trên MK4 o’r radd flaenaf ar rwydwaith Cymru a’r Gororau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Bydd y Trenau Dosbarth 756 Fast Light Intercity a’r Trenau Rhanbarthol (FLIRTs) newydd yn cael eu pweru gan wifrau trydan uwch ben y trên.
Dyma’r trenau ‘tri-moddol’ trawsnewidiol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio diesel neu fatri ar rannau o drac rheilffordd lle nad oes gwifrau trydan uwchben.
Ffordd o annog mwy o bobol i deithio ar drên
Dywed Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, fod rhoi trenau trydan newydd ar waith ar Metro De Cymru yn “foment wirioneddol hanesyddol”.
“Bydd y trenau trydan hynod fodern hyn, sydd â mwy o le arnyn nhw, yn cynnig profiad teithio cyfforddus i gwsmeriaid, a bydd ganddyn nhw’r dechnoleg ddiweddaraf o ran wi-fi, ynghyd â sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid sy’n arddangos yr wybodaeth deithio ddiweddaraf un,” meddai.
Ychwanega fod siawns y bydd y trenau newydd yn “annog mwy o bobol i ddewis trên fel eu dewis teithio”.
Dywed James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, fod hon yn “foment enfawr” i’r cwmni ac i Gymru.
“Rydym yn hynod falch o allu rhoi ar waith y cyntaf o’r trenau trydan newydd sbon hyn,” meddai.
“Rydym eisoes wedi cyflwyno chwe deg pump o drenau newydd sbon i’n rhwydwaith cyfan.
“Mae’r ffaith ein bod yn gallu cyflwyno ein trenau trydan Dosbarth 756, trenau sydd â mwy o le arnynt, gwell seddi, aerdymheru modern, socedi pŵer, wifi a sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid sy’n arddangos yr wybodaeth deithio ddiweddaraf un yn hynod gyffrous.”
Torri tir newydd
Ychwanega Emil Hansen, Rheolwr Prosiectau Masnachol Stadler, fod cyflwyno’r cerbydau rheilffyrdd hyn yn “torri tir newydd”.
“Maen nhw’n cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn ymdrechion Trafnidiaeth Cymru i hybu datgarboneiddio a thechnoleg ragorol Stadler ac ymrwymo i ynni glân,” meddai.
“Mae gweld y trenau eithriadol fodern hyn ar waith yn dyst i’r cydweithio effeithiol sy’n bodoli rhwng Trafnidiaeth Cymru, Stadler a llawer o sefydliadau eraill.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y bartneriaeth hynod lwyddiannus hon.”