Bydd gweithwyr iechyd yn cael dweud eu dweud ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnig codiad cyflog o 3% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae ymgynghoriad gan undeb fwyaf Cymru ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, UNSAIN Cymru, wedi agor heddiw (11 Awst).

Bydd miloedd o nyrsys, parafeddygon, glanhawyr ysbytai, porthorion a gweithwyr iechyd eraill yn gallu rhoi eu barn nes 17 Medi.

Mae UNSAIN wedi dweud bod y codiad cyflog  yn “annerbyniol”, ac fe wnaeth pwyllgor iechyd yr undeb benderfynu gwrthwynebu’r cynnig yn unfrydol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig dderbyn beirniadaeth gan weithwyr iechyd ac undebau fis diwethaf pan wnaethon nhw gyhoeddi eu cynlluniau i godi’r cyflogau 3%.

Pe bai mwyafrif yr aelodau’n pleidleisio yn erbyn y codiad cyflog, yna mae’n debyg y byddai pleidlais arall yn cael ei chynnal i benderfynu a fydd streic.

“Siomedig”

Dangosa’r mynegai prisiau manwerthu fod chwyddiant – sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio fel sail wrth godi cyflogau – ar 3.9%, felly mae UNSAIN yn dadlau fod y codiad cyflog o 3% yn doriad cyflog mewn gwirionedd.

Mae UNSAIN yn siomedig ym mhenderfyniad Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y codiad cyflog “ar frys” a heb ymgynghori gydag undebau sy’n cynrychioli’r Gwasanaeth Iechyd.

Ynghyd â hynny, mae’r undeb wedi beirniadu’r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi herio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â dyrannu arian ychwanegol ar gyfer talu am y codiad cyflog.

Golyga hyn fod rhaid i’r 3% gael ei dalu o gyllideb bresennol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Dioddef lot”

Mae UNSAIN yn galw am godiad cyflog o £2,000 i bob gweithiwr iechyd.

“Mae gweithwyr iechyd wedi dioddef lot yn ystod y pandemig, ac wedi gwneud nifer o aberthau. Fe wnaethon nhw roi lles cleifion Covid cyn lles eu hunain, a gobeithio y byddai hynny’n cael ei gydnabod yn briodol drwy godiad cyflog teg,” meddai Paul Summers, prif swyddog UNSAIN dros iechyd.

“Mae gwleidyddion yn hapus i bentyrru canmoliaeth tuag at weithwyr iechyd ond wnawn nhw ddim rhoi codiad cyflog teg.

“Rydyn ni’n galw ar bob gweithiwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn yr ymgynghoriad tâl hwn.”

‘Dangos eu gwerth’

Dywedodd Stefan Senese, is gadeirydd Pwyllgor Iechyd UNSAIN Cymru a gweithiwr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, eu bod nhw wedi dangos eu gwerth drwy’r pandemig a bod y cyhoedd eisiau iddyn nhw gael codiad cyflog teg.

“Os nad yw’r Llywodraeth yn cael y cyflog yn iawn, bydd pobol yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bydd ymdopi gyda rhestrau aros hirach nag erioed yn anoddach fyth,” meddai Stefan Senese.

“Rydyn ni eisiau i bob un o aelodau UNSAIN bleidleisio er mwyn dweud wrthym ni a ydyn nhw’n credu fod codiad 3% y Llywodraeth yn ddigon.”

Mae Llywodraeth yr Alban am roi codiad cyflog o 4% i weithwyr iechyd yno, ac yn ôl UNSAIN mae gan weithwyr yng Nghymru bob hawl i gwestiynu pam nad yw eu llywodraeth yn gwerthfawrogi eu gwasanaeth gymaint â Llywodraeth yr Alban.

‘Streicio pe bai angen’ medd un nyrs y Gwasanaeth Iechyd

Jacob Morris

“Rydym wedi rhoi ein bywydau ni yn y fantol i achub cymdeithas ac mae’r codiad pitw yma yn sarhad ar ein gwaith.”