Mae bwytai a chaffis yn y sector lletygarwch yn ei chael hi’n anodd denu staff yn ôl i’r gweithle wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws lacio.

Ymysg y rhesymau dros staff yn peidio â dychwelyd mae’r cynllun ffyrlo ac amgylchiadau gweithio.

Cyn y pandemig, roedd 157,000 o staff yn gweithio yn y diwydiannau hyn ac mae miloedd o swyddi sydd eto i’w llenwi.

Colli staff

Un bwyty sydd wedi cael trafferth ydy Tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon, ac maen nhw wedi gweld colledion mawr yn nifer y staff yn ystod y pandemig am sawl rheswm.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl ar y funud yn dal i gael ffyrlo felly dydyn nhw ddim yn chwilio am y swydd nesaf, tra bod llawer hefyd eisiau gwneud llai o oriau,” meddai’r rheolwr adnoddau dynol Vicky Owen wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi colli tua 20% o’n staff ni dros y pandemig.

“Adeg y cyfnod clo, roedd llawer wedi mynd i chwilio am swyddi eraill lle doedden nhw ddim yn gorfod gweithio ar benwythnosau na gweithio’n hwyr, ac mae pobl wedi arfer byw ar lai o bres erbyn rŵan.

“Fel arfer, mae yna dipyn o dramor yn gweithio yma hefyd, gyda Brexit yn effeithio ar hynny hefyd.

“Mae llawer o’r rhai sydd yn gallu byw yma wedi mynd adref yn ystod y cyfnodau clo, ond dydyn nhw ddim wedi dod yn ôl rhag ofn fydd y cyfyngiadau’n newid eto.”

‘Gweithio’n galed’ i gadw safonau

Mae’r bwyty, sydd hefyd yn dafarn a gwesty, wedi ceisio sawl ffordd i ddenu pobl i weithio iddyn nhw, ond bod yr amgylchiadau presennol yn gwneud hynny’n anodd.

“Rydyn ni wedi codi cyflogau a thrio bod mor hyblyg â fedrwn ni drwy roi llai o oriau i’r staff, ond dydy llawer ddim yn chwilio am waith oherwydd y strach mae pobl yn ei gael gan gwsmeriaid,” meddai Vicky.

“Mae’r gwahanol reolau yn y pedair gwlad wedi achosi hynny a gwneud hi’n anodd iawn i ni.

“Mae’r sector lletygarwch yn gyffredinol wedi dioddef oherwydd cwsmeriaid anghwrtais, ond dydyn ni ddim wedi gweld hynny’n digwydd mor aml yn fan hyn.”

Bu’n rhaid i Dafarn y Black Boy fod yn fwy amyneddgar wrth recriwtio staff, gan fethu â hyfforddi’n llawn mewn rhai achosion.

“O’r blaen, roedden ni’n gwirio pawb, a chael geirda gan bawb, ond dyddiau yma, mae’n rhaid inni gymryd pobl ar eu gair er mwyn llenwi bylchau.

“Roedden ni’n arfer hyfforddi staff, yn enwedig y rhai ifanc, i adeiladu hyder a dysgu nhw, ond does dim amser erbyn hyn.

“Mae rhai wedi bod yn gofyn inni – ‘pam wnewch chi ddim dysgu nhw dros Zoom?’ – ond mae’n hynod o anodd i ddysgu rhywun sut i wneud coffi ar sgrin!

“Ond rydyn ni yn lwcus bod pawb yn gweithio’n galed i gadw’r safon i fyny.”

Newidiadau tymor hir

Bydd llacio’r cyfyngiadau dros y misoedd nesaf yn rhoi mwy o ryddid i fusnesau, ond mae Vicky’n tybio fydd recriwtio staff yn parhau i fod yn broblem.

“Dw i’n rhagweld y ffyrlo’n dod i ben, ond bydd y sector lletygarwch wedi arfer gweithredu ar lai o staff.

“Rydyn ni wedi gorfod newid ein system ni a derbyn llai o gwsmeriaid oherwydd bod y staff ddim yno, ond erbyn mis Medi a Hydref, fydd pobl yn chwilio am waith a fydd dim gwaith ar gael, gan fod busnesau’n gweld hi’n haws gweithredu ar lai.”

Wrth drafod ymgyrchoedd i ddenu mwy o bobl i’r diwydiant, mae Vicky’n amau sut y gwneith o lwyddo o dan yr amgylchiadau.

“Mae’n dibynnu sut maen nhw’n trio denu pobl yn ôl,” meddai.

“Beth sy’n anodd ydy bod popeth wedi newid cymaint yn y sector.

“Dw i’n gweld pobl sy’n derbyn budd-daliadau yn gwrthod swydd rydyn ni’n ei gynnig iddyn nhw, felly mae angen i lot newid.”