Mae’r Taliban yn parhau i ennill tir yn Afghanistan ar raddfa eang, meddai swyddogion, gyda naw o 34 o brifddinasoedd taleithiol y wlad bellach yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Daw hyn ar ôl i’r Arlywydd Joe Biden orchymyn bod holl luoedd yr Unol Daleithiau yn gadael y wlad erbyn diwedd y mis. Mae Joe Biden wedi dweud nad yw’n difaru’r penderfyniad.

Dywedodd swyddogion wrth wasanaeth newyddion Associated Press ddydd Mercher (Awst 11) bod prifddinasoedd taleithiau Badakhshan, Baghlan a Farah bellach yn nwylo’r Taliban.

Mae’r gwrthryfelwyr bellach yn brwydro yn erbyn y llywodraeth er mwyn meddiannu nifer o daleithiau eraill.

Er nad yw’r brifddinas Kabul dan fygythiad, mae’r Taliban yn rhoi pwysau ar luoedd diogelwch Afghanistan sydd bellach yn brwydro’r gwrthryfelwyr ar ben eu hunain.

Er gwaetha ymdrechion gwledydd y Gorllewin dros yr 20 mlynedd ddiwethaf i hyfforddi a rhoi cefnogaeth i luoedd Afghanistan, mae’r lluoedd yno yn gwegian, gan ffoi o’r brwydro, weithiau yn eu cannoedd.

Erbyn hyn, mae’r pwysau’n bennaf ar ysgwyddau lluoedd elit a llu awyr Afghanistan.

Hyd yn hyn mae’r Taliban wedi gwrthod dychwelyd i’r bwrdd trafod.

Yn y cyfamser mae degau ar filoedd o bobl wedi ffoi o’u cartrefi yng ngogledd y wlad er mwyn dianc rhag y brwydro mewn trefi a phentrefi. Maen nhw wedi ffoi i’r brifddinas Kabul, gan fyw mewn parciau ac ar y strydoedd, gydag ychydig iawn o fwyd a dŵr.

Roedd llysgennad heddwch yr Unol Daleithiau Zalmay Khalilzad wedi rhybuddio’r  Taliban ddydd Mawrth (10 Awst) na fyddai unrhyw lywodraeth sy’n defnyddio grym i ennill pŵer yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.