Mae disgwyl i weithwyr yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe bleidleisio dros gynnal rhagor o streiciau neu beidio.

Daw yn sgil anghydfod hirdymor ynghylch diogelwch sy’n gysylltiedig â Covid-19.

Mae aelodau undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn swyddfeydd yr asiantaeth yn Abertawe wedi bod yn cymryd camau diwydiannol dros fesurau diogelwch.

Mae’r DVLA yn mynnu ei fod wedi rhoi mesurau ar waith i gadw staff yn ddiogel ac wedi bod yn dilyn canllawiau swyddogol.

Bydd pleidlais ymgynghorol o aelodau’r PCS yn dechrau heddiw (dydd Mercher, 11 Awst) ac yn cau ar 3 Medi.

Gofynnir i’r aelodau am eu blaenoriaethau ar gyfer cytundeb i roi terfyn ar yr anghydfod ac a fyddent yn cefnogi streiciau pellach.

Byddai’n rhaid cynnal pleidlais arall cyn y gallai streiciau pellach gael eu cynnal.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS Mark Serwotka: “Mae uwch reolwyr y DVLA a’r Adran Drafnidiaeth wedi tanamcangyfrif pa mor benderfynol yw ein haelodau.

“Roeddent o’r farn y byddai cefnogaeth i’n streic yn gostwng, ond mewn gwirionedd mae wedi cynyddu gyda staff newydd yn ymuno â PCS.

“Gellir datrys yr anghydfod hwn os yw’r cytundeb gwreiddiol i ddod â’r streic i ben yn cael ei rhoi yn ôl ar y bwrdd.”