Mae 15 miliwn o goed wedi’u plannu yn Uganda fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a’r uchelgais nawr yw plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025.

Mae prosiect ‘Coed Mbale’ yn plannu dros dair miliwn o goed bob blwyddyn mewn ardal sydd wedi’i datgoedwigo’n sylweddol yn nwyrain Uganda.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Mbale wedi dioddef glaw trwm a thirlithriadau angheuol, a achoswyd gan gyfuniad o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a gormod o dorri a thrin coed.

Ond mae’r prosiect hwn yn helpu cymunedau’r ardal i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Gan weithio gyda Maint Cymru a Menter Tyfu Coed Mount Elgon, caiff planhigion coed eu dosbarthu yn rhad ac am ddim i bobol leol i’w plannu yn y gymuned.

Maent hefyd yn darparu stofiau sy’n arbed tanwydd yn ogystal â chyngor a chymorth ar gyfer bywoliaethau eraill.

Mae’r prosiect yn cyd-fynd â Chynllun Plant! Llywodraeth Cymru, sy’n plannu dwy goeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru – un yn Uganda ac un yma yng Nghymru.

‘Cydweithio’

“Mae menter Coed Mbale yn enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cenhedloedd yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

“Bydd ein haddewid i blannu 3 miliwn yn fwy bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf yn dod â manteision sylweddol, nid yn unig i’r rhai ym Mbale, ond bydd yn cael effaith fyd-eang sylweddol ar newid yn yr hinsawdd.

“Mae’r cynllun blaenllaw hwn yn enghraifft arall o Gymru’n arwain y ffordd ymhellach ym maes datblygu cynaliadwy a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, er lles pawb.”

25 miliwn o goed erbyn 2025

Dywedodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyflawni’r uchelgais o blannu 15 miliwn o goed.

“Mae’n tystio i waith caled y cymunedau a’r sefydliadau lleol yn Mbale sydd wedi gweithio’n ddiflino.

“Mae pob coeden a dyfir o fudd i’r ardal leol, ond mae hefyd yn helpu i gryfhau gwydnwch ein planed i fygythiad y newid yn yr hinsawdd.

“Felly, rydym yn annog pawb yng Nghymru i gefnogi’r rhaglen yn ei cham nesaf a’n helpu i gyrraedd ein nod yn y pen draw o blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025.”