Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yw’r cynnyrch newydd cyntaf i ennill Statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig.

Bydd y wobr yn rhoi diogelwch rhyngwladol i’r cynnyrch Cymreig. Y cig yw ail aelod ar bymtheg teulu cynhyrchion Cymru, gan ymuno â chynnyrch  arall fel Halen Môr Môn, Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Thatws Cynnar Sir Benfro.

Mae pob aelod o’r teulu yn gwbl Gymreig ac mae ganddynt gysylltiadau unigryw â’r tirweddau a’r morweddau sy’n eu meithrin

Mae Dan a Will Pritchard yn rhedeg fferm deuluol cig oen Morfa Heli y Gŵyr ac yn dweud y bydd yn “helpu i ddiogelu enw da ein cynnyrch rhanbarthol.”

Sefydlwyd cynllun Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig ar ddechrau 2021, yn dilyn Brexit.

Bwriad y cynllun ydi sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i dderbyn diogelwch cyfreithiol rhag unrhyw ymdrechion i efelychu a chamddefnyddio.

O heddiw (dydd Mercher, 11 Awst) ymlaen, dim ond Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr y mae modd ei werthu gyda logo Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig.

Mae’r logo yn gwarantu bod ei gynnyrch yn dod o ŵyn a gafodd eu geni a’u magu ar arfordir Gogledd Gŵyr yng Nghymru.

“Hynod falch”

“Rydym mor falch bod Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr wedi ennill statws uchel ei bri Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig,” meddai Dan Pritchard.

“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym yn ei gynhyrchu ac mae’n wych ei fod yn cael ei gydnabod a’i ddathlu.

“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i ddiogelu enw da ein cynnyrch rhanbarthol, hyrwyddo arferion amaethyddol traddodiadol a gwaredu cynhyrchion nad ydynt yn rhai dilys.

“Mae’n ddiwrnod gwych i Gymru ac i gynnyrch o Gymru.”

‘Hyrwyddo cynnyrch o Gymru’

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig: “Rydym am hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru sy’n tystio i’w hanesion am arbenigedd, traddodiad a chynaliadwyedd, oll gydag ymdeimlad angerddol o’u gwreiddiau unigryw.

“Hoffwn longyfarch Dan a Will ar eu llwyddiant ar fod y cynnyrch cyntaf newydd i sicrhau statws arbennig Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig ar gyfer eu cig oen Morfa Heli a’u croesawu i deulu Dynodiadau Daearyddol Cymru.

“Hoffem weld Cymru’n parhau i arwain y ffordd o ran cydnabod cynnyrch eiconig ac rwy’n hyderus y bydd llwyddiant diweddaraf Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn annog ceisiadau newydd eraill am statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig, o bob categori bwyd a diod yng Nghymru.”