Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl i fws to agored daro yn erbyn coeden ger Abertawe brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Awst 10).

Cafodd Ffordd y Mwmbwls ei chau i’r ddau gyfeiriad wedi’r digwyddiad ger Knab Rock ychydig wedi 2.30yp, ac roedd yr heddlu yn annog pobl i osgoi’r ardal.

Cafodd un person eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a pherson arall mewn cerbyd i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Cafodd sawl teithiwr arall eu hasesu yn y fan a’r lle.

Roedd tua 20 o deithwyr ar y bws pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd yr heddlu nad yw’r un o’r rhai a anafwyd wedi diodde’ anafiadau sy’n peryglu na newid eu bywyd.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod nifer o gerbydau wedi mynd i’r safle.

Ymchwiliad

Meddai llefarydd: “Fe gawsom alwad am 2.32 y prynhawn yma i adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â bws dau lawr ar Ffordd Mwmbwls.

“Mae’r ymchwiliad yn parhau. Mae gennym ddau gerbyd ymateb cyflym, un meddyg gofal brys, un ambiwlans ynghyd â nifer o adnoddau eraill ar y safle.”

Roedd y bws yn y ddamwain yn un “Cymru Coaster” First Cymru, sy’n teithio rhwng Abertawe a’r Mwmbwls.

Dywedodd llefarydd ar ran First Cymru: “Gallwn gadarnhau bod un o’r cerbydau sy’n gweithredu gwasanaeth o Abertawe i’r Mwmbwls wedi bod mewn gwrthdrawiad yn gynharach y prynhawn ’ma.

“Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth y gweithredwr roi gweithdrefnau brys ar waith ar unwaith, gan anfon cynrychiolwyr i’r lleoliad i ddarparu cefnogaeth i’r rhai dan sylw a’r gwasanaethau brys.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys fel rhan o’n hymchwiliad.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Llafur Treforys, arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe: “Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am y digwyddiad yn y Mwmbwls gyda’r bws top agored. Ffordd ar gau ar hyn o bryd. Mae’r heddlu yn y fan a’r lle a diolch byth nad ydynt wedi adrodd unrhyw anafiadau mawr. Dymuniadau gorau i bawb wneud adferiad llawn.”