Mae Llywodraethwr Efrog Newydd, Andrew Cuomo, wedi ymddiswyddo yn sgil cyfres o gyhuddiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.
Daw hyn flwyddyn ar ôl iddo gael ei glodfori am ei arweinyddiaeth yn ystod dyddiau tywyllaf pandemig y coronafeirws.
Cyhoeddwyd penderfyniad y Llywodraethwr, a fydd yn dod i rym ymhen pythefnos, wrth i ddeddfwriaeth i’w uchelgyhuddo godi momentwm.
Daeth ar ôl i dwrnai cyffredinol Efrog Newydd ryddhau canlyniadau ymchwiliad a ganfu fod Andrew Cuomo wedi aflonyddu o leiaf 11 o ferched yn rhywiol.
Cyfrinachol
Dywedodd ymchwilwyr ei fod wedi cusanu merched yn erbyn eu hewyllys, cydio yn eu bronnau a chyffwrdd ynddynt yn amhriodol yn ogystal â gwneud sylwadau sarhaus am eu hedrychiad.
Cafodd ei gyhuddo o greu awyrgylch gweithio oedd yn “rhemp ag ofn a bygythiadau”.
Roedd ei gyhuddwyr yn cynnwys cymhorthydd a ddywedodd fod ei fod wedi cydio yn ei bron ym Mhlasty’r Llywodraethwr.
Canfu’r ymchwilwyr hefyd fod staff y Llywodraethwr wedi ceisio cosbi un o’i gyhuddwyr drwy ddatgelu ffeiliau personél cyfrinachol amdani.
Kathy Hochul, Democrat 62 oed a chyn-aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau o ardal Buffalo, fydd 57fed Llywodraethwr Efrog Newydd a’r ddynes gyntaf i ddal y swydd.