Mae disgwyl i’r olaf o staff Cyngor Sir Caerfyrddin ailddechrau yn y gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf.
Fel llawer o awdurdodau lleol, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ychwanegu at gyflogau gweithwyr ar ffyrlo yn ystod pandemig y coronafeirws fel nad oeddent ar eu colled yn ariannol.
Cafodd cyfanswm o 599 o staff eu rhoi ar ffyrlo allan o weithlu o tua 8,000.
Mae’r nifer hwnnw bellach wedi gostwng i 19.
Costiodd £566,000 i’r cyngor ychwanegu at gyflogau ffyrlo rhwng 1 Ebrill, 2020 a 31 Mawrth, 2021.
Hyblyg
Ad-drefnodd cynghorau nifer o’u gwasanaethau i fynd i’r afael â’r pandemig, gyda llawer o staff yn cael eu defnyddio mewn rolau dros dro i gael help lle’r oedd ei angen.
Dywedodd prif weithredwr cynorthwyol y cyngor, Paul Thomas, bod penderfyniad wedi’i wneud yn gynnar yn y pandemig – gyda chefnogaeth undebau llafur – i ychwanegu at gyflogau staff sydd ar ffyrlo.
“Nifer y staff sydd ar ffyrlo hyblyg ar hyn o bryd yw 19, pob un ohonynt yn gweithio yn ein hamgueddfeydd a’n theatrau,” meddai Paul Thomas.
“Gan ein bod wrthi’n adfer y gwasanaethau hyn, mae’n debygol na fydd unrhyw staff Cyngor Sir Caerfyrddin ar ffyrlo o fewn ychydig wythnosau.”
Roedd rhai cynghorau eraill yn ychwanegu at gyflogau staff a gyflogwyd gan sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar eu rhan.
Gwariodd Cyngor Abertawe £388,000 yn 2020-21 ar gostau ychwanegol ar staff trydydd parti o’r fath.
Nid oedd y cynllun ffyrlo wedi’i fwriadu ar gyfer staff y sector cyhoeddus ond dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai eithriad yn cael ei wneud pe bai cyrff y sector cyhoeddus wedi edrych ar yr holl opsiynau a gorfod eu diswyddo fel arall.
Roedd colled refeniw’r sefydliad oherwydd Covid-19 hefyd yn cael ei ystyried.