Mae cannoedd o bobol wedi llenwi strydoedd Ystrad Mynach i groesawu pencampwr Olympaidd Lauren Price ddychwelyd adref.

Enillodd Lauren Price fedal aur yn y bocsio 69-75kg, gan ddod yn y cystadleuydd cyntaf o Gymru i ennill medal aur bocsio yn y Gemau Olympaidd.

Mae hi hefyd wedi ennill 52 cap i dîm pêl-droed Cymru a Phencampwriaeth Cic-Bocsio y Byd bedair gwaith mewn gyrfa chwaraeon hynod lwyddiannus.

Ar ôl pythefnos yn Tokyo, mae’r bocsiwr bellach wedi dychwelyd i dŷ ei Nain yn Sir Caerffili, lle cafodd ei magu.

Meddai Lauren: “Doeddwn i ddim yn disgwyl gymaint o bobol a hyn . . . mae’n anhygoel.

“Dwi mor ddiolchgar i bawb, yn enwedig pobol Cymru.

“Er fy mod i’n Tîm GB dwi’n cynrychioli Cymru pob tro dwi’n cystadlu ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn ffantastig, o’n i wir ddim yn disgwyl hyn.

“Diolch am ddod yma a chefnogi fi, mae’n meddwl y byd.”

“Diolch”

Ychwanegodd na allai wedi “cyflawni fy mreuddwydion” heb gefnogaeth ei nain a’i thaid, oedd yn gyfrifol am magu ers yr oedd hi’n ifanc.

“Hebddi hi ni fyddwn i byth wedi cyflawni fy mreuddwydion,” meddai.

“Hi a fy nhaid sydd wedi cefnogi fi ers i mi fod yn dri diwrnod oed a dwi methu diolch iddyn nhw digon.

“Dwi wedi bod i ffwrdd am chwe wythnos, felly i ddod adref a gweld hi wedi bod yn anhygoel.”