Mae Archesgob Efrog wedi awgrymu y dylai gwledydd y Deyrnas Unedig ganu God Save the Queen cyn chwarae yn erbyn ei gilydd.

Awgrymodd Stephen Cottrell y dylai pob gwlad ganu eu hanthemau unigol gyntaf, cyn bod pawb yn canu “ein hanthem genedlaethol gyda’i gilydd”.

Wrth ysgrifennu yn y Telegraph, cwynodd fod yr Alban wedi canu Flower of Scotland cyn eu gêm yn erbyn Lloegr yn yr Ewros, yn hytrach na bod y ddau dîm “wedi canu un anthem genedlaethol”.

Dywedodd yn yr un golofn fod nifer o bobol yn Lloegr yn teimlo’u bod nhw’n cael eu gadael ar ôl gan “elitwyr dinesig yn Llundain a’r De Ddwyrain” a’u bod nhw’n cael eu “trin yn nawddoglyd fel [pobol] chwithig o senoffobig”.

Galwodd Stephen Cottrell am “ehangu’r weledigaeth o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Saesneg” hefyd.

Penbleth

“Pan mae gwahanol genhedloedd y Deyrnas Unedig yn ffeindio eu hunain yn chwarae yn erbyn ei gilydd ar y maes chwarae, gallwn ganu ein hanthemau unigol. Yna canu ein hanthem genedlaethol gyda’n gilydd. A charu ein cymydog,” meddai yn y golofn.

“Pan wnaeth Lloegr chwarae’r Alban yn yr Ewros ychydig fisoedd yn ôl, roedden ni’n wynebu penbleth. Beth i ganu cyn y gêm?

“Mae’r ddwy genedl, Lloegr a’r Alban, yn perthyn i’r Deyrnas Unedig o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Dylen ni fod wedi canu un anthem genedlaethol, siawns.

“Ond fe wnaeth yr Albanwyr, gydag egni trawiadol, ganu Flower of Scotland. Ac fe wnaeth y Saeson ganu God Save the Queen. Fe wnaeth anthem genedlaethol y ddwy genedl ddod yn anthem Saesneg yn unig.

“Mae’r cwestiwn yn rhywbeth mwy nag un sy’n codi gyda’r anthem. Mae’n rhywbeth ynghylch Seisnigrwydd.”

‘Undod mewn amrywiaeth’

Wrth siarad am ddatganoli, dywedodd Archesgob Efrog ei fod yn ymddangos fel “datblygiad da”.

“Fe wnaethon nhw bwysleisio’r undod hwnnw sydd mewn amrywiaeth. Roedden nhw’n rhannu cyfrifoldeb ac yn ymbweru llywodraeth leol.”

Aeth yn ei flaen i ddweud na fu datblygiadau datganoli tebyg yn Lloegr.

“O ganlyniad, fe wnaeth San Steffan ddechrau teimlo fel Llywodraeth Saesneg. Ac fe wnaeth Llundain, gyda’i faer a’i gyfoeth ei hun, ei faint a’i ddylanwad, ddechrau teimlo fel cenedl ar wahân: hyd yn oed yn Lloegr, roedd Llundain a’r gweddill.”