Rhybuddiwyd y Taliban na fyddai unrhyw lywodraeth sy’n dod i rym drwy drais yn Affganistan yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Fe wnaeth Zalmay Khalilzad, llysgennad heddwch o’r Unol Daleithiaudeithio, deithio i Doha yn Qatar, lle mae gan y Taliban swyddfa wleidyddol, i ddweud wrth y grŵp nad oes pwynt iddyn nhw geisio ennill drwy ymladd.

Byddai goresgyniad milwrol o Kabul, prifddinas Affganistan, yn sicrhau eu bod nhw’n alltudion byd-eang.

Mae e, ac eraill, yn gobeithio perswadio arweinwyr y Taliban i ailddechrau trafodaethau gyda llywodraeth Affganistan wrth i luoedd Nato a’r Unol Daleithiau orffen gadael y wlad.

Mae’r Taliban wedi cipio pum allan o 34 prifddinas taleithiau’r wlad mewn llai nag wythnos, ac yn ymladd y llywodraeth, sy’n cael cefnogaeth y gorllewin, er mwyn ceisio rheoli nifer o rai eraill.

Trafodaethau

Er gwaethaf ymdrech filwrol 20 mlynedd gan y gorllewin, a gwario biliynau o ddoleri ar hyfforddi milwyr Affgan, mae’r lluoedd cyffredin wedi dymchwel, gan ddianc o’r frwydr fesul cannoedd weithiau.

Mae llwyddiant diweddar y Taliban yn ychwanegu mwy o frys at yr angen i ailddechrau trafodaethau a allai roi stop ar yr ymladd yn Affganistan, ond hyd yn hyn mae’r Taliban wedi gwrthod ailddechrau trafod.

Bwriad Zalmay Khalilzad wrth ymweld â Qatar yw “helpu i ffurfio ymateb rhyngwladol ar y cyd i’r sefyllfa sy’n dirywio’n sydyn yn Affganistan,” yn ôl Adran Wladol yr Unol Daleithiau.

Yn y cyfamser, mae pennaeth milwrol y Taliban wedi rhyddhau clip sain i’w filwyr yn eu gorchymyn i beidio brifo lluoedd Affgan na gweithwyr y llywodraeth mewn llefydd y maen nhw’n eu goresgyn.

Doedd hi ddim yn amlwg a wnaethon nhw ddilyn y cyfarwyddiadau, gan fod adroddiadau gan sifiliaid sydd wedi dianc rhag y Taliban fod eu ysgolion wedi cael eu llosgi a chyfyngiadau gormesol ar fenywod.

Kabul, prifddinas Afghanistan

Lluoedd y Taliban yn ysgubo drwy ogledd Affganistan

Ailadroddodd llysgenadaethau’r UD a Phrydain yn Kabul rybudd i’w dinasyddion sy’n dal yno i adael “ar unwaith” wrth i’r sefyllfa waethygu