Mae cyfraddau priodasau rhwng dynion a menywod yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng i’r lefel isaf ar record.

Dangosa ystadegau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 20.1 priodas i bob 1,000 o ddynion dibriod a 18.6 priodas i bob menyw ddibriod yn 2018.

Dyma’r cyfraddau isaf ers i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cadw cofnodion yn 1862.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos fod 227,870 priodas heterorywiol yn 2018, y cyfanswm isaf ers 1894 pan fu 226,449.

Mae’n debyg mai mwy o ddynion a menywod yn penderfynu peidio priodi nes eu bod nhw’n hŷn, neu gyplau’n penderfynu byw gyda’i gilydd yn lle priodi, sy’n gyfrifol am y gostyngiad hirdymor.

Ystadegau

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod nifer y priodasau heterorywiol wedi gostwng 47% ers 1972, tra bod cyfraddau priodasau wedi gostwng 76% ymhlith dynion a 71% ymhlith menywod ers hynny.

At ei gilydd, roedd 234,795 o briodasau yng Nghymru a Lloegr yn 2018, gostyngiad o 3% ers y flwyddyn flaenorol a’r nifer isaf ers 2009.

Roedd 6,925 o’r priodasau hynny rhwng cyplau o’r un rhyw, gyda 57% ohonyn nhw’n rhai rhwng menywod, tra bod 803 cwpl arall o’r un rhyw wedi newid eu partneriaeth sifil yn briodas.

Yn 2018, yr oed cyfartalog ar gyfer priodasau heterorywiol oedd 38.1 ar gyfer dynion a 35.8 ar gyfer menywod. Ar gyfer, priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw, yr oed cyfartalog i ddynion oedd 40.4 a 36.9 oedd yr oed ar gyfer menywod.

Gostyngiad

“Roedd cyfraddau priodasau heterorywiol ar y lefel isaf ar record yn 2018, tra bod y cyfanswm o briodasau wedi gostwng am y drydedd flwyddyn ar y trot,” meddai Kanak Ghosh, ystadegydd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Mae hyn yn parhau’r gostyngiad graddol hirdymor yn y rhifau a’r cyfraddau ers dechrau’r 70au.

“Er gwaethaf y gostyngiad, mae mwy o bobol yn penderfynu priodi pan maen nhw’n hŷn, yn enwedig rhai 65 oed a hŷn.

“Dyma’r bumed flynedd ers i briodasau o’r un rhyw ddod yn bosib, ac mae tua un ymhob 35 o briodasau nawr rhwng cyplau o’r un rhyw.”

Ffurfioldeb

Seremonïau crefyddol oedd tua un ymhob 5 priodas heterorywiol yn 2019, yr isaf ar record, a 0.9% ar gyfer priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw.

Ers 1992, mae mwy o briodasau sifil wedi cael eu cynnal bob blwyddyn a phriodasau crefyddol.

Yn ôl uwch-aelod cyswllt gyda Hall Brown Family Law, mae’r ystadegau’n tanlinellu newid mewn agweddau.

“Mae’r cynnydd mewn cyd-fynd yn dangos yn glir fod dynion a menywod dal i gael perthnasau sefydlog ond nad ydyn nhw’n teimlo’r angen am y ffurfioldeb a’r gost sy’n gysylltiedig â phriodas,” meddai Alice Rogers.

“Mae cyplau’n rhoi mwy o bwyslais ar fuddsoddi’r math hwn o arian y gallan nhw fod wedi’i wario ar eu diwrnod priodas er mwyn rhoi blaendal ar gartref yn lle.

“Mae’r ffaith fod y gostyngiad mewn niferoedd priodasau wedi digwydd cyn pandemig Covid yn awgrymu y byddwn ni’n gweld cwymp mwy sylweddol oherwydd na allai pobol briodi o gwbl.”