Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog David Cameron $10 miliwn (£7.2 miliwn) drwy Greensill Capital cyn i’r cwmni fynd i’r wal, yn ôl adroddiadau.

Datgelodd rhaglen Panorama fod David Cameron wedi gwneud £3.25 miliwn drwy gyfranddaliadau yn y cwmni, a thua miliwn o ddoleri’r flwyddyn drwy weithio fel ymgynghorydd rhan amser iddyn nhw.

Yn ôl yr adroddiadau, mae’r rhaglen wedi gweld llythyr rhwng y cwmni a’r cyn-Brif Weinidog Torïaidd yn manylu ar werth ei gyfranddaliadau.

Wrth ymateb, dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei fod e’n “chwerthin yr holl ffordd i’r banc”.

Ond yn ôl llefarydd ar ran David Cameron, ni wnaeth e dderbyn “dim byd tebyg” i’r ffigurau sydd wedi’u hadrodd gan y BBC.

Cefndir

Dechreuodd David Cameron weithio i Greensill ym mis Awst 2018, dwy flynedd wedi iddo adael Downing Street.

Roedd sylfaenydd y cwmni, Lex Greensill, yn ymgynghorydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod David Cameron fel Prif Weinidog, ond mae e’n gwadu iddo gael cynnig y swydd pan oedd yn Brif Weinidog.

Greensill oedd prif fenthycwr GFG Alliance – grŵp o gwmnïau sy’n cynnwys Liberty Steel sydd a melin ddur yng Nghasnewydd –  sy’n cael eu rheoli gan Sanjeev Gupta.

Fe wnaeth David Cameron lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’w perswadio i fod yn fuddsoddwr newydd i’r cwmni llynedd, gan decstio gweinidogion gan gynnwys y Canghellor Rishi Sunak, uwch-ymgynghorydd Boris Johnson, ac is-reolwr Banc Lloegr am y mater.

Gwrthododd Banc Lloegr, ond ym mis Mehefin 2020 cafodd Greensill fynediad at raglen y Llywodraeth a oedd yn rhoi arian brys i gwmnïau oedd wedi’u heffeithio gan y pandemig.

Aeth Greensill i’r wal ym mis Mawrth eleni, gan arwain at gyfres o ymchwiliadau i ymddygiad David Cameron a’r hyn ddigwyddodd i’r cwmni.

“Dim byd tebyg”

“Ni wnaeth David Cameron dderbyn dim byd tebyg i’r ffigurau gafodd eu dyfynnu gan Panorama,” meddai llefarydd ar ei ran.

“Mae David Cameron yn siomedig fod Greensill wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac mae’n ddrwg iawn ganddo dros y rhai sydd wedi colli eu swyddi.

“Gan nad oedd e’n gyfarwyddwr i’r cwmni, nag yn ymwneud â phenderfyniadau benthyca, does ganddo ddim mewnwelediad arbennig i beth ddigwyddodd yn y pendraw.

“Fe wnaeth e ymddwyn gyda bwriad da, a doedd dim drwg yn ei weithredoedd. Fe wnaeth e’r achos i Lywodraeth y Deyrnas oherwydd ei fod e wir yn credu y byddai yna fantais real i fusnesau’r Deyrnas Unedig ar amser heriol, nid oherwydd ei fod e’n meddwl y byddai’n fuddiol i’r cwmni.

“Doedd ganddo ddim syniad nes mis Rhagfyr 2020 fod y cwmni mewn perygl o fethu.”

“Y gweddill ohonom yn dioddef”

“Fe wnaeth David Cameron bocedu £7.2 miliwn am 2 flynedd a hanner o waith rhan amser i Greensill,” meddai Liz Saville-Roberts ar Twitter.

“Be wnaeth e am ei gyflog?

“Fe wnaeth e lobïo cyd-Dorïaid yn y Llywodraeth.

“Mae Torïaid elît San Steffan yn chwerthin yr holl ffordd i’r banc tra mae’r gweddill ohonom ni’n dioddef y goblygiadau.”

Boris Johnson yn lansio adolygiad annibynnol i ffrae lobïo David Cameron

Bydd yr ymchwiliad yn edrych i weld sut y gwnaeth y cwmni sicrhau cytundebau gyda’r Llywodraeth, ac yn ymchwilio i weithredoedd y cyn-Brif Weinidog