Mae Plaid Cymru wedi galw ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i amddiffyn y “mwyaf agored i niwed” rhag gaeaf o galedi economaidd.
Rhybuddia’r blaid am fygythiad triphlyg wrth i deuluoedd wynebu gaeaf o dlodi a dyled wrth i filiau godi a’r ychwanegiad i Gredyd Cynhwysol gael ei dorri.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AoS, y byddai’r cynnydd mewn biliau cartrefi a chwymp mewn incwm, diwedd y Cynllun Cadw Swyddi a’r toriad i’r codiad Credyd Cynhwysol yn gwthio “miloedd” o deuluoedd i dlodi.
Daw ei galwad ar ôl i Gyngor ar Bopeth rybuddio bod teuluoedd yn wynebu “storm berffaith” yr hydref hwn.
Mae’r rheolydd Ofgem eisoes wedi dweud y bydd biliau ynni 15 miliwn o aelwydydd yn cynyddu o leiaf £139, i’r lefel uchaf erioed, o fis Hydref oherwydd cynnydd mewn prisiau cyfanwerthol.
Yn ôl Cyngor ar Bopeth mae bron i 2 filiwn o gartrefi yn y Deyrnas Unedig ar ei hôl hi gyda’u biliau ynni cyn i’r prisiau newydd gael eu cyflwyno a chyn y toriad i Gredyd Cynhwysol. Mae hynny’n gynnydd o 410,000 ers dechrau’r pandemig.
Dangosa eu dadansoddiad bod bron i chwarter y bobol a gafodd eu holi (22%), sy’n gyfystyr â bron i 6 miliwn o aelwydydd, yn poeni am dalu eu biliau ynni.
“Storm berffaith”
Galwodd Sioned Williams ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’r codiad i Gredyd Cynhwysol yn barhaol.
Fe wnaeth hi hefyd herio Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddyn nhw er mwyn “gwarchod” dinasyddion Cymru rhag bolisïau’r Ceidwadwyr, gan ddechrau gyda mynnu grym dros weinyddu lles.
“Mae biliau cartrefi yn codi. Mae incwm yn gostwng. Mae ffyrlo yn dod i ben. Bydd hyn, ynghyd â phenderfyniad trychinebus y Torïaid i dorri’r £20 ychwanegol at daliadau credyd cynhwysol, yn golygu bod miloedd o deuluoedd Cymru yn cael eu gwthio hyd yn oed ymhellach i dlodi a dyled,” meddai’r Aelod o’r Senedd Sioned Williams.
“Mae’n storm berffaith ac yn un y gallai’r Torïaid helpu i’w lliniaru trwy gadw’r codiad Credyd Cynhwysol sydd wedi bod mor hanfodol i gynifer o deuluoedd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf o galedi ac ansicrwydd economaidd.
“Felly, yn hytrach na thynnu’r carped o dan draed pobl hanner ffordd trwy’r flwyddyn, byddai cadw’r ychwanegiad o £20 yn barhaol yn sicrhau rhwyd ddiogelwch y DU ac yn cefnogi gwariant defnyddwyr yng Nghymru, gan gynorthwyo’r adferiad economaidd tymor hir.
“Ac wrth y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, fe ddyweda i hyn. Dywedwch wrthym beth fyddwch chi’n ei wneud i warchod ein dinasyddion rhag niwed Torïaidd,” ychwanegodd.
“Ni allwn aros i un Llywodraeth ym mhen arall yr M4 ddatblygu rhyw fath o gydwybod. Er enghraifft, mae gan yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a’r gallu i greu buddion nawdd cymdeithasol newydd mewn meysydd polisi datganoledig.
“Defnyddiwch y pwerau sydd ar gael ichi nawr i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas – gan ddechrau drwy fynnu rheolaeth dros y ffordd yr ymdrinnir â budd-daliadau a lles i amddiffyn dinasyddion Cymru rhag effeithiau gwaethaf polisïau creulon Torïaidd.”