Roedd “llawer o fethiannau sylweddol” gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ddinbych yng ngofal claf canser fu farw’n ddiweddar, yn ôl yr Ombwdsmon.
Daeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r canlyniad fod methiannau yn y gofal tuag at y claf 69 oed, ac wrth ei rhyddhau o’r ysbyty.
Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl derbyn cwyn am y gofal a gafodd ei roi i’r claf ym mis Awst 2020 gan y ddau gorff.
Daeth i’r canlyniad fod clinigwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno wedi methu ag “ymchwilio yn ddigonol na thrin yn briodol” poen abdomenol a symptomau colli pwysau Mrs M, a ddaeth i’r amlwg wedi llawdriniaeth ar ei choluddyn.
Methodd clinigwyr ag asesu ei chyflwr bregus yn gywir, meddai, gan ei rhyddhau heb sicrhau bod cefnogaeth gofal cartref priodol wedi’i drefnu iddi.
O ganlyniad, cafodd Mrs M ei derbyn i’r ysbyty eto. Ni chafodd achos eilradd ei marwolaeth, coluddyn ischaemig, ei adnabod chwaith.
“Effeithio hawliau dynol”
Bu’r Ombwdsmon, Nick Bennett, yn feirniadol o fethiant y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Ddinbych i gydlynu eu hymateb wedi i fab Mrs M dderbyn ymateb y Cyngor chwe mis ar ôl un y Bwrdd Iechyd.
“Mae’r achos trasig hwn yn gamddiagnosis brawychus a systemig. Bu llawer o fethiannau a gwallau sylweddol cyn, yn ystod ac ar ôl i Mrs M gael ei rhyddhau o’r ysbyty,” meddai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett.
“Mae’r methiannau hyn wedi effeithio ar hawliau dynol Mrs M ynghylch nid yn unig urddas ond ei hansawdd bywyd hefyd.
“Roedd hefyd effaith ar hawliau’r teulu ehangach o ran gwylio ei gwaethygiad gwanychol.”
Argymhellodd fod y ddau gorff yn anfon ymddiheuriad ysgrifenedig at fab Mrs M, a thaliad o £250.
Fe wnaeth Nick Bennett argymell fod y Bwrdd Iechyd yn talu £5,000 i’r teulu hefyd, i wneud iawn a chydnabod y straen a achoswyd gan ganfyddiadau’r adroddiad.
Mae’r ddau gorff wedi derbyn argymhellion yr adroddiad.