Ar y cyfan, mae canlyniadau Lefel A yng Nghymru yn uwch ar raddau A neu A* eleni o gymharu ag yn 2020.

Mae dysgwyr Safon Uwch ac Uwch-gyfrannol yng Nghymru wedi derbyn eu canlyniadau terfynol heddiw (Awst 10), ac roedd 48.3% o’r graddau yn rhai A* neu A, o gymharu â 41.8% yn 2020 a 27% yn 2019.

Roedd arbenigwyr wedi rhagweld y byddai’r graddau yn uwch eleni, yn sgil newidiadau i drefniadau asesu a’r amgylchiadau eithriadol.

Mae undebau ac arbenigwyr wedi rhybuddio yn erbyn dod i ganlyniadau rhy syml ynghylch y gwahaniaethau mewn graddau o flwyddyn i flwyddyn, gydag undeb NAHT Cymru’n dweud bod unrhyw sôn am chwyddiant mewn graddau yn “annefnyddiol”.

Cafodd yr arholiadau eu gohirio am yr ail flwyddyn eleni, ac athrawon oedd yn gyfrifol am benderfynu ar y graddau.

Dangosa ystadegau Ucas, fod cyfanswm y disgyblion sydd wedi’u derbyn i ddilyn cwrs gradd yn y Deyrnas Unedig wedi codi 5% o gymharu â’r un adeg llynedd, gyda 435,430 o lefydd wedi’u hawlio hyd yn hyn.

Mae undebau addysg wedi dweud fod pryder y bydd mwy o apeliadau eleni, ac yn annog pobol i beidio â thalu am gyfreithiwr i fynd drwy’r broses.

Canlyniadau

Roedd cyfanswm o 35,867 o ymgeiswyr yng Nghymru eleni, cynnydd o 14.5% o gymharu â 2020, sy’n mynd yn groes i’r gostyngiad mewn niferoedd disgyblion Safon Uwch ers haf 2015.

Mae canlyniadau Cymru yn dangos bod 99.1% wedi ennill graddau A* i E, cynnydd o’r 97.6% yn 2019.

Gellir gweld yr un patrymau yn Lloegr, gan fod 44.3% o raddau yn rhai A neu A* eleni, o gymharu â 38.1% yn 2020 a 25.2% yn 2019.

Mae posib gweld yr un tueddiad yng Ngogledd Iwerddon hefyd, gyda dros 50% yn cael graddau A neu A* eleni, cynnydd o’r 43.3% llynedd a 30.9% yn 2019.

Roedd llawer o ddisgyblion yn derbyn eu graddau ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol heddiw hefyd, ac roedd canlyniadau’r Tystysgrifau Her Sgiliau 2021 yn cael eu cyhoeddi.

Haeddu’r cymwysterau

Wrth ddathlu’r canlyniadau, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, y gall disgyblion fod yn sicr bod eu graddau’n adlewyrchu eu gwaith caled, a’u bod nhw’n llwyr haeddu’r cymwysterau.

“Rwy’n gobeithio bod pawb sydd wedi derbyn eu graddau heddiw’n teimlo’n hynod falch o’u cyflawniad nodedig,” meddai Jeremy Miles.

“Nid yw eleni wedi bod yn debyg i unrhyw flwyddyn arall ac rydych chi wedi gorfod aberthu llawer.

“Bu’n rhaid i chi ddelio â chymaint o darfu ar eich astudiaethau yn ystod y 18 mis diwethaf, ond rydych chi wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad aruthrol i barhau â’ch dysgu.

“Rydych chi hefyd wedi chwarae rhan anhygoel o bwysig wrth gadw’ch cyd-ddisgyblion, eich athrawon a’ch cymunedau yn ddiogel.

“Er bod eich profiadau a’r ffordd y cawsoch eich asesu yn wahanol, nid yw gwerth y cymwysterau hyn yn wahanol o gwbl.

“Gallwch fod yn sicr bod eich graddau’n adlewyrchu’ch gwaith caled drwy gydol y flwyddyn hon, a’ch bod chi’n llwyr haeddu’r cymwysterau rydych chi’n eu derbyn,” pwysleisiodd.

“Mae’r staff yn ein hysgolion a’n colegau ni wedi bod yn aruthrol hefyd, gan weithio’n eithriadol galed ac o dan lawer o bwysau i ddarparu a marcio asesiadau dysgwyr.

“Y peth pwysicaf eleni yw bod dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu gyrfaoedd gwaith.

“Pob lwc i chi i gyd gyda pha beth bynnag sydd o’ch blaen yn y dyfodol.”

“Blwyddyn heb ei thebyg”

Nid oedd un dull unffurf o arholi eleni, gan mai athrawon oedd yn penderfynu ar y graddau.

Byddai cael dull unffurf wedi cyflwyno mwy o risgiau i degwch meddai Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru wrth ymateb i’r canlyniadau.

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn academaidd heb ei thebyg,” meddai Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker.

“Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog Addysg i ganslo arholiadau ym mis Tachwedd y llynedd a’r newid wedyn ym mis Ionawr eleni i ddull lle mae ysgolion a cholegau’n pennu’r canlyniadau ar gyfer eu dysgwyr, ein blaenoriaeth fu dod o hyd i’r dull tecaf posibl o dan yr amgylchiadau rhyfeddol hyn.

“Y flaenoriaeth yw galluogi dysgwyr i gymryd eu camau nesaf i addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau neu gyflogaeth a gwarchod eu llesiant.

“Mae’r broses wedi dibynnu ar farn broffesiynol athrawon a darlithwyr i bennu’r graddau sy’n briodol i’w dysgwyr, gan roi ysgolion a cholegau wrth galon y dull gweithredu. Hoffem ddiolch iddynt am eu hymroddiad a’u gwaith caled wrth addasu’n gyflym i’r trefniadau hyblyg a roddwyd ar waith i alluogi dyfarnu graddau.

“O ystyried nad oedd dull canolog, fel arholiadau, yn bosibl o dan yr amgylchiadau, y nhw sydd wedi bod yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu dysgwyr gan eu bod yn deall yr heriau a wynebir yn lleol. Yn yr amgylchiadau, byddai dull unffurf i bawb wedi cyflwyno mwy o risgiau i degwch.

“Er bod patrwm cyffredinol y canlyniadau yn edrych yn wahanol, gall dysgwyr fod yn hyderus bod y cymwysterau a ddyfarnwyd yng Nghymru eleni â’r un gwerth â chymwysterau a ddyfarnwyd mewn unrhyw flwyddyn arall.”

“Tanseilio gwaith caled”

Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Laura Doel, Cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, nad oedd son am chwyddo graddau yn “ddefnyddiol”.

“Dyw e’n gwneud dim mwy na thanseilio gwaith caled dysgwyr ac ymroddiad y proffesiwn addysgu,” meddai Laura Doel.

“Cafodd graddau eu rhoi ar sail dyfarniad arbenigol athrawon.

“Mae unrhyw gymhariaeth â graddau’r blynyddoedd diwethaf yn anodd, o ystyried y broses newydd a gafodd ei defnyddio eleni. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio dod i ganlyniadau rhy syml ynghylch gwahaniaethau sy’n dibynnu ar nifer o ffactorau cymhleth.”

Ychwanegodd Laura Doel fod y flwyddyn hon wedi rhoi cyfle i edrych ar opsiynau gwahanol i’r broses arholi draddodiadol.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw’r ffordd draddodiadol o asesu dysgwyr yn cyd-fynd ag uchelgais y cwricwlwm newydd, ac felly, rydyn ni wedi galw am archwilio’r broses sydd wedi bod yn seiliedig ar arholiadau ers degawdau.”

Disgyblion yn derbyn eu canlyniadau Lefel A wedi i’r arholiadau gael eu gohirio am yr ail flwyddyn

Undebau sy’n cynrychioli athrawon ac arweinwyr ysgolion yn dweud fod pryder y bydd mwy o apeliadau eleni