Mae disgyblion dros Gymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, yn derbyn eu canlyniadau Lefel A fore heddiw (10 Awst).
Dyma’r ail flwyddyn i ddisgyblion beidio sefyll arholiadau, ac mae’r graddau wedi’u penderfynu yn dilyn asesiadau gan athrawon.
Y llynedd, roedd 38.6% o’r canlyniadau Lefel A yn A* neu A dros Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – sef yr uchaf erioed – o gymharu â dim ond 25.5% yn 2019.
Os bydd mwy o ddisgyblion yn cael graddau uchel, mae rhai wedi awgrymu y bydd hi’n anoddach i brifysgolion wahaniaethu rhwng ymgeiswyr.
Mwy o apeliadau
Mae’n debyg y bydd disgyblion fydd yn methu â chyrraedd y graddau sydd eu hangen arnyn nhw’n wynebu mwy o gystadleuaeth wrth geisio cael lle yn y prif brifysgolion drwy’r broses clirio.
Ond mae undebau sy’n cynrychioli athrawon ac arweinwyr ysgolion wedi annog rhieni a disgyblion i beidio â defnyddio cwmniau cyfreithiol i herio’r canlyniadau, ac apelio’n erbyn y graddau “er mwyn apelio yn unig”.
Dywedodd Dr Mary Bouster, cyd-ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Addysg Genedlaethol, wrth PA y dylid rhybuddio rhieni i beidio talu am gyfreithwyr.
“Dylai rhieni gael eu rhybuddio i beidio â thalu am gyfreithwyr i bledio’r achos dros radd wahanol oherwydd ni fydd hynny’n plesio neb, fydd e ddim yn plesio’r byrddau arholi,” meddai Dr Mary Bouster.
“Dydi defnyddio iaith gyfreithiol ddim am gryfhau’r apêl honno, na ei gwneud hi’n fwy tebygol o lwyddo. Felly os nad ydych chi eisiau gwastraffu eich arian, peidiwch â gwneud hynny.”
Mae yna bryder y bydd mwy o apeliadau nag arfer, meddai Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol undeb NAHT sy’n cynrychioli arweinwyr ysgolion.
“Er bod y system apelio yno i ddod â lefel bellach o hyder, bydd apeliadau annilys neu apeliadau gobeithiol yn gwastraffu amser mae’n debyg, oherwydd mae’r system sy’n cael ei defnyddio’n un gref,” meddai Paul Whiteman wrth PA.
“Fy unig apêl i ddisgyblion a rhieni disgyblion yw bod lot o waith wedi mynd i’r asesu, dylech chi allu dibynnu ar yr asesiadau felly byddai dechrau apêl er mwyn apelio’n unig, yn y gobaith y gallai’r radd newid, yn anghywir.”