Mae dyfodol y drosffordd (flyover) yng nghanol tref Caernarfon o dan ystyriaeth.

Daw hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd sy’n dweud y byddai’r cyfrifoldeb am y brif ffordd bresennol rhwng Llanwnda a Phlas Menai yn cael ei drosglwyddo, ar ôl i’r ffordd osgoi newydd agor.

Byddai hyn yn gweld ffordd yr A487 drwy Gaernarfon yn cael ei reoli gan Gyngor Gwynedd o hynny ymlaen.

Mae sawl cwestiwn wedi codi ynglŷn â’r gwaith o gynnal a chadw’r ffordd, gyda chostau sylweddol yn cael eu rhagweld.

Mae Cyngor Gwynedd yn pwyso a mesur sawl opsiwn i liniaru’r straen ariannol hwnnw, yn cynnwys dymchwel y drosffordd sydd yng nghanol tref Caernarfon.

Newid dwylo

O oddeutu 2022 ymlaen, mae’n debygol fydd adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd yn derbyn cyfrifoldeb dros yr hen briffordd.

“Mae Llywodraeth Cymru’n rheoli’r lôn trwy Gaernarfon ar hyn o bryd fel cefnffordd,” meddai Pennaeth yr Adran Amgylchedd, Dafydd Wyn Williams wrth golwg360.

“Yn arferol, fel digwyddodd efo ffyrdd osgoi Porthmadog a Phenygroes, maen nhw’n trosglwyddo cyfrifoldeb dros yr hen gefnffordd i ddwylo’r Cyngor.

“Mae’n anodd i’r Cyngor wrthod hynny.

“Ond beth sy’n digwydd fel rhan o hynny, dydy’r Cyngor ddim eisiau derbyn gormod o rwymedigaethau, felly os oes pont yna, er enghraifft, sydd angen lot o waith, mae angen inni ddeall costau hynny.

“Mae yna setliad ariannol fel arfer yn cael ei roi [gan Lywodraeth Cymru] i sicrhau bydd y Cyngor ddim ar eu colled.

“Byddai’n rhaid inni gael rheswm da iawn dros wrthod cymryd cyfrifoldeb o’r ffordd.

“Rydyn ni angen sicrhau bod y setliad cyllidol hwnnw yn ddigon i oresgyn unrhyw gostau ychwanegol.

“Fydd rhaid inni ddod fyny efo amcangyfrif am y costau hynny a chyflwyno’r ffigyrau i’r Llywodraeth – fedran nhw wedyn ddewis gwneud y gwaith cyn trosglwyddo, neu roi’r arian inni wneud y gwaith maes o law.

“Fel rheol, beth maen nhw’n ei wneud ydy rhoi’r arian.”

Trosffordd

Mae’r drosffordd bresennol yng nghanol Caernarfon wedi ei hadeiladu ers diwedd y 1970au ar ôl cyfnod hir o aros amdani.

Fe welodd y gwaith hynny adeiladau fel y Pafiliwn a hen ysgol Y Gelli, yn ogystal â sawl ty, yn cael eu dymchwel.

Bron i hanner canrif yn ddiweddarach, mae dyfodol y drosffordd o dan ystyriaeth yn bennaf oherwydd y costau o’i chynnal a chadw.

“Y cwestiwn sydd rhaid gofyn ydy a oes wir angen y drosffordd,” meddai Dafydd Wyn Williams.

“Rydyn ni wedi bod yn ystyried y gost o ddod â hwnnw i safon uwch, sydd ddim yn mynd i fod yn rhad.

“Wedyn rhaid ystyried os oes angen hi yn ymarferol ar ôl cwblhau’r ffordd osgoi.

“Mae gennym ni opsiynau, ac rydyn ni wedi bod yn trafod hynny â Llywodraeth Cymru ers dros ddwy flynedd.

“Roedden ni am gael ymgynghoriad cyhoeddus cwpl o fisoedd yn ôl, ond oherwydd Covid, roedd hynny’n amhosibl.

“Felly mae hynny wedi cael i wthio ymlaen i fis Medi eleni.

“Bydd hwnnw’n ymgynghoriad electronig, felly bydd rhaid inni ddenu pobl i gymryd rhan o’r broses a rhoi eu barn.”

Yn yr ymgynghoriad hwnnw, bydd y cynlluniau’n cael eu cyflwyno i’r cyhoedd i weld beth fydden nhw’n dymuno ei weld yn y dyfodol.

“Mae yna ddau brif opsiwn wrth gwrs – un ai cadw’r drosffordd neu ei dynnu lawr,” meddai.

“Os ydyn ni’n ei gadw fo – fydden ni’n gallu plannu o gwmpas y ffordd i wneud iddi edrych yn fwy hardd.

“Mae yna hyd yn oed mwy o opsiynau os ydyn ni’n ei dynnu i lawr – fedrwn ni roi cyfleusterau beicio yna er enghraifft.

“Rydyn ni am ddangos cynlluniau i bobl o’r opsiynau hynny.”

Arian

Byddai’r gost o ddatblygu safle’r drosffordd yn debygol o fod gwerth miliynau o bunnoedd, ond mae’r Cyngor yn gobeithio bydd hynny’n cael ei ariannu’n llwyr gan grantiau Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n siarad yn barod efo Llywodraeth Cymru ynglŷn ag arian,” meddai Dafydd Wyn Williams.

“Efallai byddai’r arian rydyn ni ei angen [ar gyfer y cynlluniau] tu hwnt i’r setliad cychwynnol, ond does dim ffigwr pendant ar hyn o bryd.

“Mae yna fwy o waith na dim ond tynnu’r ffordd ei hun i lawr oherwydd yn aml mae yna offer fel llinellau ffôn sydd angen ei ailgyfeirio.

“Wrth gwrs, byddai’n rhaid cymharu’r gost o ddymchwel â’r gost o gynnal a chadw’r drosffordd yn y tymor hir.”

‘Potensial’

Mae’r ffordd wedi bod yn ddadleuol yng Nghaernarfon ers blynyddoedd, gyda llawer yn teimlo bod hi’n creu bwlch rhwng canol y dref a gweddill y dref.

Wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben, bydd Cyngor Gwynedd yn gobeithio cael darlun clir o’r farn gyhoeddus am ddyfodol y safle, gyda disgwyl i’r ffordd osgoi agor ym mis Tachwedd 2021.

“Dw i’n gwybod bod yna deimladau cryf am y drosffordd, achos mae o’n hollti rhan o’r dref i ffwrdd,” meddai Dafydd Wyn Williams.

“Beth fyddai hyn yn ei wneud ydy gwneud hi’n haws i groesi a lleihau’r hollt yna.

“Fydden ni’n gallu adeiladu llwybrau, plannu planhigion i gael lle mwy gwyrdd, fel ei fod o’n lle brafiach i fod.

“Rydyn ni yn gweld bod yna botensial yma.

“Erbyn bydd y ffordd yn agor, fydd gennym ni ddarlun mwy clir am farn y cyhoedd – mae’n dibynnu wedyn os ydy Llywodraeth Cymru yn fodlon ariannu hynny.

“Ond os ydy’r gymuned leol eisiau cadw’r drosffordd, wedyn fydd rhaid inni ystyried hynny.

“Dydyn ni ddim eisiau gwthio agenda yma, dim ond eisiau gwybod beth ydy’r farn yn gyffredinol.

“Mae yna sgôp i wneud rhywbeth yma, ac rydyn ni mewn cyfnod i wneud cynllun cyffrous i’w gwblhau mewn amser derbyniol.”