Mae dynes yn yr Unol Daleithiau wedi dwyn camau cyfreithiol yn erbyn Dug Caerefrog gan honni iddo ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi yn ei harddegau.
Mae cyfreithwyr Virginia Giuffre, oedd yn cael ei hadnabod fel Virginia Roberts ar y pryd, wedi dwyn achos sifil mewn cwrt ffederal yn Efrog Newydd, gan honni bod y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein wedi ei defnyddio “ar gyfer pwrpas rhywiol”.
Y Tywysog Andrew yw’r unig ddiffynnydd sydd wedi’i enwi yn yr achos sifil er bod Jeffrey Epstein a’i gariad Ghislaine Maxwell yn cael eu crybwyll sawl gwaith hefyd.
“Ugain mlynedd yn ôl fe wnaeth cyfoeth, pŵer, safle a chysylltiadau’r Tywysog Andrew ei alluogi i gam-drin plentyn ofnus, bregus heb neb yno i’w hamddiffyn. Mae wedi hen fynd heibio’r amser iddo gael ei ddwyn i gyfrif,” meddai Virginia Giuffre yn nogfennau’r llys.
Honnir ei bod wedi’i cham-drin yn rhywiol gan y Tywysog Andrew, pan oedd hi o dan 18 oed, yng nghartref Ghislaine Maxwell yn Llundain a chartref Jeffrey Epstein yn Efrog Newydd ynghyd a lleoliadau eraill.
Mae Ghislaine Maxwell wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o fasnachu mewn rhyw, mewn llys yn Manhattan lle mae disgwyl iddi sefyll ei phrawf ym mis Tachwedd. Roedd Jeffrey Epstein wedi lladd ei hun yn y carchar ym mis Awst 2019, fis ar ôl iddo gael ei arestio ar gyhuddiadau o fasnachu mewn rhyw.
Mewn cyfweliad gyda’r rhaglen Newsnight ym mis Tachwedd 2019, roedd y Tywysog Andrew wedi gwadu honiadau ei fod wedi cael rhyw gyda Virginia Giuffre ar dri achlysur ar wahân, ac nad oedd yn cofio cwrdd â hi.
Cafodd ei feirniadu’n chwyrn am ei ddiffyg empathi tuag at ddioddefwyr Jeffrey Epstein wedi’r cyfweliad ac roedd wedi rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau brenhinol ar ôl hynny.
Mae gwasanaeth newyddion PA wedi gwneud cais am ymateb gan swyddfa Dug Caerefrog.