Mae’r gamdriniaeth tuag at wleidyddion, a menywod yn arbennig, yn mynd yn “waeth ac yn waeth”, yn ôl cyn-Weinidog Addysg Cymru.
Wrth siarad gyda phodlediad Walescast BBC Cymru, dywedodd Kirsty Williams, a adawodd y Senedd ym mis Mai, fod yr elfen sarhaus yn rhai o’r sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n anoddach fyth i fenywod.
Dywedodd fod “gormod” o’i chydweithwyr yn gorfod derbyn mai dyna’r pris y mae’n rhaid ei dalu i weithio mewn gwleidyddiaeth – ac nad felly y dylai pethau fod.
Ychwanegodd ei bod hi’n teimlo ei bod hi’n methu â diogelu ei theulu, ei gŵr a’i merched, rhag y gamdriniaeth roedd hi’n ei derbyn ar-lein.
“Anoddach ac yn anoddach”
“Dros y blynyddoedd, rydych chi weithiau’n poeni am effaith hynny ar eich teulu ac mae pobol glên wedi bod yn galonogol a dweud ‘Mae’n beth da i dy ferched dy weld yn mynd allan a gwneud hyn’,” meddai Kirsty Williams, y fenyw gyntaf i arwain plaid wleidyddol yn y Senedd, neu’r Cynulliad fel yr oedd yn cael ei alw ar y pryd.
“Roedd rhaid i rywun ei wneud, felly beth sy’n rhoi’r hawl i chi basio’r her honno ymlaen i fenyw arall? Beth sy’n gwneud i chi feddwl eich bod chi mor arbennig eich bod chi’n gallu osgoi gwneud y pethau anodd a gwneud i fenyw druan arall wneud y pethau anodd? Fydd rhaid i rywun ei wneud e gyntaf.
“Mae gennych chi gyfrifoldeb i beidio osgoi’r materion a’u pasio nhw ymlaen i rywun arall i wneud y gwaith caled.”
Daeth Kirsty Williams yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2008, a bu’n cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed yn y Cynulliad ers yr etholiad cyntaf yn 1999.
“Mae hi wedi mynd yn anoddach ac yn anoddach, yn waeth ac yn waeth. Dydi hynny ddim jyst i fi, mae hynny i lot o fy nghydweithwyr gwleidyddol,” ychwanegodd.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n arbennig o anodd i fenywod, oherwydd mae yna elfen misogynistic, cas iawn i rai o’r pethau ar y cyfryngau cymdeithasol.
“I ormod o fy nghydweithwyr nawr, mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn mai dyma’r pris y mae’n rhaid ei dalu ar gyfer gwneud y swydd maen nhw eisiau ei gwneud.
“Yn fy mhrofiad i yn y Senedd, roedd y mwyafrif helaeth o’r bobol dw i wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd wedi’u cymell gan yr holl resymau cywir.
“Er gwaethaf eu gwleidyddiaeth, dw i dal yn meddwl fod gwleidyddiaeth yn broffesiwn anrhydeddus.
“Dw i’n meddwl ei fod e’n arf er mwyn gwneud lles, mae’n gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol a bywydau cymunedau, a dylai hynny ddim gorfod bod am bris – y pethau ofnadwy y maen nhw’n gorfod ei ddioddef i wneud y swydd honno.”
“Anallu i gadw fy nheulu yn sâff”
Fel nifer o wleidyddion eraill, mae Kirsty Williams wedi derbyn bygythiadau i’w bywyd, ac er bod hynny’n “ofnadwy” mae’r heddlu’n ymateb i hynny’n “effeithiol ac amserol” meddai.
Dywedodd fod y sylwadau cas ar-lein yn “ypsetio rhywun llawer mwy na’r bygythiadau”.
“Byw mewn cymuned rydych chi’n ei chynrychioli, a fy anallu i, ella bod eraill yn gwneud e’n well, i gadw fy nheulu yn sâff rhag hynny yn dipyn gwaeth, ypsetio rhywun llawer mwy na’r bygythiadau am fy mywyd.”
Pwysleisiodd na fyddai hi’n peidio annog ei merched i beidio bod yn wleidyddion, ond y byddai yn “bendant” yn poeni amdanyn nhw mewn ffordd na fyddai hi’n poeni amdanyn nhw pe baen nhw mewn swydd llai cyhoeddus.