Mae bachgen 12 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty ar ôl i fws to agored daro yn erbyn coeden ger Abertawe brynhawn ddoe (dydd Mawrth, 10 Awst)

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd y Mwmbwls ger Knab Rock tua 2:30 brynhawn Mawrth.

Fodd bynnag, dywed Heddlu De Cymru nad yw anafiadau’r bachgen yn rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Roedd tua 20 o deithwyr ar y bws – sy’n rhan o wasanaeth Cymru Coasters cwmni First Cymru sy’n cludo ymwelwyr rhwng Abertawe a’r Mwmbwls – pan ddigwyddodd y ddamwain.

Damwain

Cafodd ail berson i Ysbyty Treforys, Abertawe am driniaeth, tra bod saith person wedi cael mân anafiadau.

Cafodd tri chriw eu hanfon o dair o orsafoedd y sir mewn ymateb i’r alwad frys, gan symud teithwyr o’r bws, darparu triniaeth a diogelu’r cerbyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn cydweithio â’r gwasanaethau brys wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain.

“Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth y gweithredwr roi gweithdrefnau brys ar waith ar unwaith, gan anfon cynrychiolwyr i’r lleoliad i ddarparu cefnogaeth i’r rhai dan sylw a’r gwasanaethau brys,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys fel rhan o’n hymchwiliad.”

Cludo dau i’r ysbyty ar ôl i fws to agored daro coeden ger Abertawe

Cafodd un person eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, a pherson arall mewn cerbyd i Ysbyty Treforys, Abertawe