Mae myfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn derbyn eu canlyniadau lefel A heddiw (dydd Mercher, Awst 10).

Yng Nghymru, roedd bron i hanner (48.3%) yr holl raddau yn rhai A neu A*.

Roedd cynnydd o 5% hefyd yn y rhai a gafodd o leiaf un A* yn benodol, gyda 21.3% yn derbyn y radd yn 2021.

Drwyddi draw, fe wnaeth 99.1% o ddisgyblion lwyddo i gael o leiaf un cymhwyster lefel A.

Roedd y pandemig wedi golygu bod diwrnodau canlyniadau ychydig yn wahanol eleni eto.

Fe dderbyniodd disgyblion chweched dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon eu canlyniadau dros e-bost eleni yn wahanol i’r drefn arferol.

‘Diwrnod rhyfedd’

Mae Osian Tudur o Ysgol Syr Hugh Owen wedi cael un A* a tair A yn ei ganlyniadau eleni, ac mae wedi cael lle ym Mhrifysgol Caerdydd flwyddyn nesaf.

Mae o wedi disgrifio’r profiad o’r diwrnod canlyniadau eleni.

“Felly ges i A* yn y Bac, ac A mewn Cymraeg, Hanes ac Addysg Gorfforol, a dw i’n bwriadu mynd i Gaerdydd i astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg,” meddai.

“Roedd y diwrnod canlyniadau’n rhyfedd – gan fod ni’n gwybod pa raddau oedden ni’n mynd i gael gan yr athrawon.

“Roedd rhaid disgwyl wedyn am y cadarnhad gan CBAC, a doedd hynny ddim yn naturiol iawn.

“Fyddai CBAC yn hawdd iawn yn gallu newid ein canlyniadau ni, ond roedd yr ysgol yn ofalus iawn wrth raddio.

“Yn sicr, roedd hi’n wahanol gan mai’r athrawon oedd yn rhoi’r graddau inni a doedd yr arholiadau ddim yn rhai naturiol, felly oedd hi’n anodd gwybod beth i baratoi.”

Doedd disgyblion eleni ddim yn gorfod sefyll arholiadau swyddogol, ac mae rhai ymgyrchwyr yn gwthio am barhau gyda’r drefn yn y tymor hir.

Mae Osian yn credu bod angen ystyried cael cydbwysedd rhwng arholiadau a gwaith cwrs.

“Mae yna ffordd o wneud o’n fwy teg,” meddai.

“Byddai’n well petai graddau ddim yn hollol ddibynnol ar arholiadau achos mae ddigon hawdd i rywun – sydd i fod i gael A – wneud llanast o arholiad.

“Yr athrawon sy’n adnabod ni’n well na neb a nhw sy’n gwybod beth ddylen ni gael go iawn.

“Ond hefyd, efallai bod angen rhyw fath o arholiad.”

‘Athrawon yn deg’

Roedd Efa Ceiri, hefyd o Ysgol Syr Hugh Owen, wedi cael tair A ac un B, ac mae hi hefyd yn mynd i astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg yng Nghaerdydd.

“Mi wnaethon nhw wneud hi’n deg, ac fe gawson ni ddigon o waith a ffug arholiadau,” meddai.

“Roedd rhaid inni adolygu’r un peth, ac roedd yr athrawon yn deg wrth farcio.

“Os doedden ni ddim yn hapus, cawson ni’r cyfle i apelio, ond dw i ddim yn adnabod neb wnaeth orfod gwneud hynny.”

Oherwydd y cynnydd eleni yn safon graddau myfyrwyr, mae Efa yn cytuno ei bod hi ychydig yn anoddach cael lle yn y brifysgol.

“Dw i’n meddwl ei bod hi, ond fedra i ddim siarad o brofiad personol,” meddai.

“Dw i’n adnabod rhai wnaeth ddim cael y cwrs oedden nhw eisiau oherwydd bod graddau ar gyfartaledd yn uwch.”

Gyda dim arholiadau eleni na llynedd, doedd Efa ddim yn hollol hapus gyda gwneud gwaith dros gyfnod o amser yn hytrach na chyfnod byr.

“Os ydych chi’n gwneud arholiadau fel arfer, mae’r straen ond yn para tan rydych chi’n gorffen y cyfnod yna, ac rydyn ni’n gallu anghofio amdanyn nhw ar ôl hynny.

“Yn amlwg, doedd na ddim arholiadau llynedd chwaith, felly dydyn ni heb sefyll arholiad ers TGAU.

“Felly eleni, roedd yna lot o straen am gyfnod hir o amser.

“Roedd y gwaith yn cael ei wneud dros gyfnod hirach, felly dyna’r unig beth doeddwn ni ddim hoff iawn ohono.