Mae Abertawe wedi arwyddo chwaraewr canol cae Ipsiwch, Flynn Downes, ar gytundeb pedair blynedd.

Daw’r cytundeb yn rhy hwyr iddo allu chwarae yn erbyn Reading ddydd Mawrth (10 Awst) ond gallai wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Elyrch yn erbyn Sheffield United ddydd Sadwrn (14 Awst).

Flynn Downes, 22 oed, yw’r pumed chwaraewr i ymuno ag Abertawe’r haf hwn yn dilyn Kyle Joseph, Liam Walsh, Joel Piroe a Jamie Paterson.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Ipswich ar ddiwrnod agoriadol ymgyrch 2017-18 a daeth yn chwaraewr rheolaidd yn ystod y tymor canlynol ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda Luton.

Ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf, mae wedi chwarae 100 o weithiau i Ipswich, gan sgorio tair gôl.

Bydd Matt Gill, sy’n gynorthwyydd i reolwr Abertawe Russell Martin, yn gyfarwydd â Flynn Downes, ar ôl bod yn rhan o dîm hyfforddi Ipswich am gyfnod.

“Mae’n glwb enfawr ac alla i ddim disgwyl i ddechrau,” meddai Flynn Downes wrth wefan y clwb

“Siaradais â’r rheolwr, ac roeddwn i’n hoffi’r ffordd y daeth ar draws, y chwaraewyr maen nhw wedi’u harwyddo eisoes ac roedd y cyfan yn gwneud synnwyr.

“Mae’r ffordd y mae’n chwarae yn apelio’n aruthrol, chwaraeais yn erbyn tîm yr hyfforddwr gydag Ipswich y llynedd ac rwy’n credu mai dim ond tua phedair gwaith y gwnaethom gyffwrdd â’r bêl yn ystod y gêm gyfan.

“Felly, pan ddaeth y cyfle hwn, ac o wybod ei fod o’n mynd i fod yma roedd yn symudiad perffaith i mi.

“Mae’r ffordd mae am chwarae pêl-droed yn apelio ataf yn aruthrol.”