Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr yn galw am adeiladu pwll nofio Olympaidd yn y gogledd.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae nofwyr y gogledd “dan anfantais” o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.

Fel y mae hi, mae’n rhaid iddynt orfod teithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd er mwyn hyfforddi mewn pwll 50 metr o hyd.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant nofwyr o Gymru yng Ngêmau Olympaidd 2020 fel rhan o dîm GB.

Roedd chwech o nofwyr o Gymru’n cystadlu yn Tokyo, gyda Calum Jarvis a Matthew Richards yn ennill medalau aur yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd.

Fodd bynnag, nid oedd yr un o’r chwech yn dod o ogledd Cymru.

Yn ôl Plaid Cymru byddai pwll 50m Olympaidd yn arwain at fwy o nofwyr o Gymru yn cynrychioli tîm GB yn y dyfodol.

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw wedi derbyn unrhyw alwadau diweddar am bwll nofio o faint Olympaidd.

Ychwanegodd y byddai hynny yn dod dan faner ‘Chwaraeon Gogledd Cymru’ – partneriaeth newydd sydd wedi ei sefydlu gan Chwaraeon Cymru ac mai nhw fydd yn delio â cheisiadau o’r fath.

‘Anfantais’

“Mae Cymru’n genedl chwaraeon gyda llwyddiannau ar draws llawer o ddisgyblaethau ond mae nofwyr elît yng ngogledd Cymru dan anfantais oherwydd nad oes ganddynt fynediad i bwll maint Olympaidd yn y rhanbarth,” meddai Darren Millar AoS, a llefarydd Gogledd Cymru’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n hanfodol bod buddsoddiad mewn talent a chyfleusterau chwaraeon yn cael ei ddosbarthu’n deg ledled Cymru felly rwy’n llwyr gefnogi galwadau gan hyfforddwyr a phobol chwaraeon ledled Gogledd Cymru am bwll maint Olympaidd i ategu cyfleusterau eraill yn y rhanbarth.

“Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cyfle cyfartal i ryddhau eu potensial chwaraeon ond dim ond os oes buddsoddiad teg ym mhob rhan o’r wlad y cyflawnir hyn.”

Pan holodd golwg360 lle yn y gogledd hoffai’r Ceidwadwyr Cymreig weld pwll o’r fath yn cael ei adeiladu, dywedodd llefarydd ei bod hi “ond yn rhesymol ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid cyn dod i benderfyniad gan y bydd yn rhaid ystyried sawl ffactor gwahanol”.

‘Potensial’

Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw am bwll nofio Olympaidd i ogledd Cymru.

“Ni ellir gwadu bod gwylio athletwyr sy’n ein cynrychioli ar lwyfan chwaraeon y byd yn denu cymaint ohonom, nid dim ond y gwylwyr arferol, ac yn dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru,” meddai llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AoS.

“Ond mae’r llwyddiant hwn yn codi’r cwestiwn – faint o nofwyr talentog o ogledd Cymru allai fod wedi bod yn cymryd rhan yn y gemau hyn pe bai pwll maint Olympaidd yn y Gogledd iddyn nhw hyfforddi ynddo?

“A allem fod yn edrych ar saith, wyth, naw neu fwy o nofwyr o Gymru ar y tîm?

“Fel y mae hi byddai’n rhaid i nofwyr yn y gogledd deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i hyfforddi, rhywbeth sy’n siŵr o’i gwneud hi’n anodd neu hyd yn oed yn amhosibl i athletwr ifanc ddilyn camp maen nhw’n rhagori ynddynt.

“Byddai sefydlu pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru yn osgoi sefyllfa o’r fath – mae nofwyr yn y gogledd yn haeddu mynediad i gyfleusterau hyfforddi, ac yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial.”