Mae Abertawe yn cynnal trafodaethau i arwyddo Ethan Laird, asgellwr cefn Manchester United, ar fenthyg am y tymor.

Gweithiodd prif hyfforddwr newydd yr Elyrch Russell Martin gyda’r gŵr 20 oed gyda’i gyn-glwb MK Dons, lle treuliodd Laird ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg.

Mae Laird wedi cynrychioli Lloegr ar lefel dan 17 oed, dan 18 oed a dan 19 oed.

Mae Abertawe wedi dechrau’r tymor heb y Cymro Connor Roberts, sy’n chwarae yn yr un safle, wedi iddo ddioddef anaf tra’n chwarae yn Ewro 2020 ym mis Mehefin.

Cytundeb

Chwaraeodd Lair i Manchester United am y tro cyntaf yng Nghynghrair Ewropa yn ystod tymor 2019-20.

Ond mae’r llanc y tu ôl i Aaron Wan-Bissaka a Diogo Dalot yn Old Trafford ac yn annhebygol o chwarae rhyw lawer y tymor hwn.

Mae Abertawe eisoes wedi cyhoeddi bod chwaraewr canol cae Ipsiwch, Flynn Downes, wedi ymuno â’r clwb ar gytundeb pedair blynedd heddiw (10 Awst).

Ef oedd y pumed chwaraewr i ymuno ag Abertawe’r haf hwn yn dilyn Kyle Joseph, Liam Walsh, Joel Piroe a Jamie Paterson.