Roedd hi’n noson wych i dimau Cymru neithiwr (nos Fawrth, 10 Awst), wrth i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd gymhwyso ar gyfer ail rownd Cwpan y Gynghrair.

Caerdydd 3 Sutton United 2

Sgoriodd Marley Watkins ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i Gaerdydd wrth i’r Adar Gleision drechu Sutton United 3-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond wnaeth pethau ddim dechrau’n dda i Gaerdydd wrth i’r tîm o League Two fynd ar y blaen ar ôl pedwar munud, gyda Donavan Wilson yn gorffen gwrth ymosodiad cyflym.

Daeth yr Adar Gleision yn ôl, gyda Marley Watkins yn sgorio ddwywaith mewn 5 munud i roi’r tîm cartref ar y blaen.

Ychwanegodd Josh Murphy drydedd gyda chwe munud yn weddill, cyn i Coby Rowe sgorio gôl gysur i’r ymwelwyr.

Roedd hi’n noson i’w chofio i Marley Watkins.

Awr yn unig cyn y gic gyntaf roedd wedi cyhoeddi ei fod wedi arwyddo cytundeb tymor byr tan ddiwedd mis Awst.

Roedd ei goliau yn hwb mawr i’r Adar Gleision, wnaeth wella’n sylweddol yn yr ail hanner yn dilyn dechrau’n ddigon di-fflach.

“Roedd hi’n bwysig ein bod ni wedi ennill y gêm,” meddai Mick McCarthy.

“Pan oeddwn gyda Barnsley yn y Bedwaredd Adran, roeddwn wrth fy modd yn chwarae yn erbyn timau’r Adran Gyntaf a’r Ail Adran – dim byd i’w golli, popeth i’w ennill.

“Gallech weld hynny, roedden nhw’n chwarae’n dda ac wedi cael dechrau gwych ond y cyfan y gallwn ei wneud oedd ennill y gêm.

“Rydan ni drwodd i’r rownd nesaf.”

Reading 0 Abertawe 3

Enillodd Abertawe am y tro cyntaf o dan y rheolwr newydd, Russell Martin, wrth iddynt gymhwyso ar gyfer ail rownd Cwpan y Gynghrair diolch i fuddugoliaeth o 3-0 yn Reading.

Cafodd yr Elyrch eu curo gan Blackburn ar ddiwrnod agoriadol y tymor ddydd Sadwrn (7 Awst).

Ond trechodd Abertawe’r tîm cartref Reading, oedd yn chwarae gyda thîm ifanc, yn rhwydd diolch i goliau gan Joel Latibeaudiere, Ben Cabango a Joel Piroe.

Chwaraeodd Reading chwarter olaf y gêm gyda 10 dyn ar ôl i Abaty Nelson gael ei anafu a thri eilydd eisoes wedi’u defnyddio.

Bydd Joel Piroe yn falch iawn o sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb ers ymuno o PSV Eindhoven am £1m dros yr haf.

Roedd deheuad Russell Martin i gadw’r meddiant yn amlwg wrth i Abertawe reoli’r bêl drwy gydol y gêm.

“Rwy’n falch iawn gyda chymaint o’r pethau a welais heno.

“Roeddwn yn teimlo fel ei fod yn gynnydd o ddydd Sadwrn.

“Dywedais wrth yr hogiau ‘nid oes unrhyw gêm bêl-droed yn hawdd er eu bod yn chwarae tîm ifanc. Doedd ein rhai ni ddim yn brofiadol iawn nac yn hen iawn.

“Ond roedden nhw’n ei gwneud hi’n hawdd iddyn nhw eu hunain yn y ffordd roedden nhw’n chwarae.

“Mae hi’n ddyddiau cynnar o ran yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud a beth rydyn ni eisiau bod, ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r chwaraewyr am eu parodrwydd i geisio gwneud yr hyn rydyn ni’n gofyn iddyn nhw ei wneud.”

Ipswich 0 Casnewydd 1

Llwyddodd Casnewydd i drechu Ipswich Town o gôl i ddim, gyda gôl gan Timmy Abraham yn ddigon i anfon yr ymwelwyr drwodd i’r rownd nesaf.

Ipswich oedd y ffefrynnau yn mynd i mewn i’r gêm gan eu bod yn chwarae adran yn uwch na Chasnewydd yn League One.

Ond yr Alltudion sy’n mynd drwodd i’r rownd nesaf yn dilyn perfformiad cadarn ac arwrol ar adegau.

Mae’n debyg y bydd Ipswich yn teimlo’n eithaf anlwcus wedi iddynt daro’r postyn ddwywaith gydag ymdrechion gan Armando Dobra a Macauley Bonne.

Ond chwaraeodd Nick Townsend, gôl geidwad Casnewydd, rôl enfawr yn y fuddugoliaeth wrth iddo wneud cyfres o arbedion campus.

“Roedd yn fuddugoliaeth hollol anhygoel,” meddai Michael Flynn, rheolwr Casnewydd.

“Rwy’n falch iawn o’r grŵp hwn o chwaraewyr ac yn enwedig y bechgyn ifanc oedd allan yna.

“Dydyn nhw ddim wir wedi chwarae gyda’i gilydd fel tîm.”

Roedd Michael Flynn yn llawn canmoliaeth i Timmy Abraham a Nick Townsend.

“Rydych chi’n gweld pa mor barod ydi o [Abraham]  i weithio, mae’n rhoi rhywbeth gwahanol i ni – mae ei gyflymder yn drydanol ac rwyf wedi dweud wrtho os nad yw pêl-droed yn gweithio allan y gall wneud y 100m oherwydd ei fod mor gyflym.

“Ond nid ef oedd yr unig un… rydym yn gwybod pa mor dda yw Nick [Townsend] … roedden nhw i gyd yn wych.”