Mae’r bocswraig Lauren Price wedi datgelu ei bod hi wedi cael cynnig i droi’n broffesiynol.

Fe enillodd y ferch o Ystrad Mynach fedal aur Olympaidd yn y pwysau canol i ferched ddydd Sul, 8 Awst.

Price, sy’n 27 oed, oedd y trydydd person o Gymru i ennill medal aur yn Nhokyo.

Mae hi nawr mewn trafodaethau â’r hyrwyddwr bocsio Eddie Hearn, sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o ornestau mwyaf llewyrchus y gamp.

Dywedodd Price ar raglen frecwast BBC Radio Wales bod Hearn wedi “gofyn i gael siarad â hi”.

‘Opsiynau’

“Yn amlwg, fe yw’r prif ddyn yn y byd bocsio, ac mae hynny’n agor fy opsiynau, ond am nawr, rwyf am fwynhau’r foment,” meddai Price.

Er fyddai troi’n broffesiynol yn golygu mwy o arian, mae Price yn awyddus i aros yn focsiwr amatur, a fyddai’n galluogi hi i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn 2024, yn ogystal â Gemau Gymanwlad 2022.

“Rwy’n dal yn ifanc ac mae Paris ond tair blynedd i ffwrdd felly mae posib i fi fod yn bencampwraig ddwbl,” meddai Price ar raglen frecwast Radio Wales.

“Mae yna lawer o gyfleoedd ar gael, ond am nawr rydw i jyst yn mwynhau’r foment.

“Fydda i’n cymryd ychydig wythnosau i ymlacio ac yn dilyn hynny, fydda i’n rhydd i wneud penderfyniad.

“Ond rydw i wrth fy modd â’r hyn rydw i’n ei wneud ar hyn o bryd – mae gen i fywyd gwych yn hyfforddi yn Sheffield, gyda hyfforddwyr a rhaglen o’r radd flaenaf.

Ysbrydoliaeth

Mae prif weithredwr Bocsio GB, Matt Holt, yn dweud eu bod yn croesawu pan mae bocswyr amatur fel Lauren Price yn cael y cyfle i ddod yn broffesiynol.

“Os edrychwch chi ar lwyddiannau Anthony Joshua ers iddo fod ar raglen Bocsio GB, mae ein bocswyr wedi eu haddysgu’n dda,” meddai Holt.

“Mae’n un o nodweddion y gamp amatur bod yn rhaid i ni adfywio ein timau unwaith bob pedair blynedd oherwydd bydd gan rai bocswyr eu llygad ar y rhengoedd proffesiynol, ond rydym yn dathlu hynny fel rhan o’n llwyddiant.

“Rydyn ni’n chwarae rhan bwysig yn y daith trwy hyfforddi a chynnig cyfleoedd cystadleuol, felly pryd bynnag mae bocsiwr yn symud i’r rhengoedd pro, rydyn ni’n cadw llygaid arnyn nhw ac yn gobeithio’u bod nhw’n gwneud yn dda

“Maen nhw’n darparu’r ysbrydoliaeth honno i’r grŵp nesaf o focswyr sy’n dod drwodd ac yn llysgenhadon gwych i Bocsio GB.”