Sicrhaodd Lauren Price fedal aur i Gymru yn y categori bocsio pwysau canol yn y Gêmau Olympaidd.
Hi yw’r Gymraes gyntaf erioed i ennill medal aur Olympaidd am focsio.
Llwyddodd i hawlio buddudoliaeth i Brydain mewn gornest yn erbyn Li Qian Tsieina o Tsieina yn Arena Kokugikan.
Roedd Price wedi’i cael prawf anodd iawn yn ei gornest ddiwethaf yn erbyn Nouchka Fontijn, o’r Iseldiroedd, gan ennill o fewn trwch blewyn.
Defnyddiodd y ferch 27 oed o Gaerffili ei symudiadau i ddrysu Li, gan reoli’r tempo drwyddo draw i hawlio buddugoliaeth pwyntiau unfrydol.
Trydydd
Hwn oedd y trydydd medal aur i Gymru a’r 22fed i Brydain – a’r un olaf – yng Ngêmau Tokyo.
Golyga hyn fod Prydain yn bedwerydd yn y tabl medalau, a’u chwe gong Olympaidd mewn bocsio yw eu canlyniad gorau mewn 101 o flynyddoedd.
Roedd Price, yr ail fenyw Brydeinig ar ôl Nicola Adams yn 2012 a 2016 i sefyll ar y podiwm bocsio, sawl modfedd yn llai o daldra na’i gwrthwynebydd ond hi oedd yn rheoli pethau o’r cychwyn.
Gan aros ar flaenau ei thraed, roedd Price, cyn-bencampwr bocsio cic-focsio’r byd sydd â mwy na 50 o gapiau rhyngwladol i dîm pêl-droed Cymru, yn rheoli’r pellter rhyngddynt yn arbennig,.
Gorchest
Doedd Li, pencampwr y byd yn 2018, ddim wedi colli rownd yn ei dau gornest blaenorol ond roedd y pum barnwr yn ochri gyda Price ar ôl y tri munud cyntaf.
Parhaodd y traffig unffordd yn yr ail rownd ac ar ôl i bedwar barnwr ochri â Price, roedd angen i Li wneud rhywbeth arbennig. Methodd â dod i’r amlwg ac aeth pedair sgôr o 30-27 ac un o 29-28 o blaid Price.
Cystadlodd Price dros Gymru yn y dosbarth pwysau canol y menywod yng Ngemau’r Gymanwlad 2014, lle enillodd fedal efydd. Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal focsio Gêmau’r Gymanwlad. Rhagorodd hi ar yr orchest yma trwy ennill medal aur yng Ngêmau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia yng Ngêmau’r Gymanwlad a’r byd a gyflawnodd yn 2018 a 2019.
Enillodd athletwyr o Gymru wyth medal i dîm Prydain mewn cyfanswm, gyda thair o’r rheiny’n fedalau aur.
- AUR – Lauren Price (Bocsio)
- AUR – Hannah Mills (Hwylio)
- AUR – Matt Richards & Calum Jarvis (Nofio)
- ARIAN – Elinor Barker (Seiclo)
- ARIAN – Lauren Williams (Taekwondo)
- ARIAN – Tom Barras (Rhwyfo)
- EFYDD – Leak Wilkinson & Sarah Jones (Hoci)
- EFYDD – Josh Bugajski & Ollie Wynne-Griffith (Rhwyfo)