Colli wnaeth y Llewod yn eu gêm olaf yn y gyfres yn erbyn De’r Affrig o 19 o bwyntiau i 16.

Mewn gêm agos, gyda dim ond dau funud i fynd a’r sgôr yn gyfartal 13-13, llwyddodd i Morne Steyn i gicio cic gosb ac ennill y gêm a’r gyfres i Bencampwyr y Byd.

Roedd y Llewod yn siomedig gyda’r canlyniad, ond roedd nifer o’r farn fod y perfformiad yn welliant ar yr ail gêm o’r gyfres yr wythnos ddiwethaf.

Cychwynodd y gêm gyda De’r Affrig yn pwyso yn hanner y Llewod.

Ar ôl deg munud, llwyddodd Handre Pollard gyda chic gosb.

Yn anffodus i’r Llewod bu’n rhaid i Dan Biggar i adael y cae gyda anaf ar ôl taclo’r canolwr De Allende.

Tarodd y Llewod nôl gyda chic 35 metr drwy’r pyst ar ôl chwarter awr, yn dod a’r sgôr yn gyfartal.

Sgarmes

Parhaodd pwysau’r Llewod wrth i Ken Owens dirio ar ôl sgarmes symudol gryf, yn sgorio cais.

Llwyddodd Finn Russell – ddaeth ymlaen yn lle Biggar – drosi’r cais i wneud y sgôr yn 3-10.

Pum munud cyn ddiwedd yr hanner, â’r ddau dîm yn mynd ben ben gyda’i gilydd, llwyddodd Pollard gyda’i ail gic o’r gêm i wneud y sgôr ar yr hanner yn 6-10.

Methodd Pollard gic bwysig saith munud mewn i’r ail hanner, yn dod â’r sgôr o fewn un pwynt gan daro’r postyn.

Ar ôl i Russel daclo Cheslin Kolbe yn anghyfreithlon, roedd cic gosb Pollard yn aflwyddiannus eto.

Gyda 56 munud ar y cloc, pasiodd Willie le Roux i Kolbe a lwyddodd i guro ddau ddyn i dirio yn y gornel a rhoi’r fantais i Dde’r Affrig.

Llwyddodd Pollard gyda’r trosiad, i wneud y sgôr yn 13-10.

Cyfartal

Gwnaeth Finn Russell y sgôr yn hafal wrth gicio cic gosb o 48 metr gydag 20 munud i fynd.

Doedd dim llawer rhwng y ddau dîm. Ond llwyddodd Morne Steyn gyda chic gosb i sicrhau’r fantais eto i Dde Affrica.

Ar ôl cam-drin yn ardal y dacl, fe lwyddodd Finn Russell drosi cic gosb i wneud hi’n gyfartal unwaith eto, gyda phum munud i fynd.

Ond yn y funud olaf, fe giciodd Morne Steyn De Affrica i fuddugoliaeth, a chipio cyfres taith y Llewod 2021 o 2-1.

Wedi’r gêm, dywedodd prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland: “Rwy’n siomedig yn amlwg ond rwy’n falch iawn o’r ymdrech a wnaeth y bechgyn.

Tynn

“Aethom allan yno i fod yn gadarnhaol a chwarae rhywfaint o rygbi. Fe wnaethon ni golli un neu ddau o gyfleoedd ac fe gawson nhw gyfleon lwcus i sgorio cais yn erbyn rhediad y chwarae. Mae’n debyg na wnaeth cwpl o alwadau 50/50 fynd ein ffordd.

“Pan fyddwch chi’n chwarae yn erbyn pencampwyr y byd, rydych chi’n gwybod y bydd yn gystadleuaeth dynn iawn gyda bownsio pêl neu alwad yn penderfynu.

“Rhoddodd y bechgyn 100 y cant i’r gêm ac o safbwynt hyfforddi, ni allwch ofyn am fwy na hynny.

“Mae’r chwaraewyr wedi rhoi popeth ond mae’n debyg y byddan nhw’n edrych yn ôl yn unigol ac yn mynd, ’roedd gwall yno’ neu’n teimlo eu bod wedi rhoi cosb i ffwrdd.

“Roedd yn gêm Brawf go iawn, roedd yn galed ac yn gorfforol a dyna beth rydych chi ei eisiau gyda chyfres Llewod.”