Sgôr cyfartal 1-1 gafodd Caerdydd yn eu gêm agoriadol o’r tymor gartref yn erbyn Barnsley.

Peniodd chwaraewr canol cae Caerdydd Marlon Pack y bêl fewn i’r gornel yn gynnar yn yr ail hanner, cyn i Toby Sibbick ddod â’r sgôr yn gyfartal i Barnsley yn hwyrach.

Roedd torf o 17,000 yn Stadiwm Caerdydd, gyda chefnogwyr yn dychwelyd i’r stadiwm oedd bron a bod yn llawn am y tro cyntaf ers Chwefror 2020.

Collodd Abertawe yn erbyn Blackburn yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Sgorio

Dominyddodd Blackburn y gêm o’r cychwyn cyntaf, gyda Sam Gallagher’n sgorio yn yr hanner cyntaf.

Sgoriodd Ben Brereton ail gôl ar ôl i Steven Benda, gôl geidwad Abertawe, roi cic gosb iddyn nhw.

Roedd tempo chwarae yr Eleirch ychydig yn araf, yn ôl rhai gwybodusion.

Llwyddodd Jamie Paterson o Abertawe i sgorio’i gôl gyntaf i Abertawe, ond collodd y tîm cyfleoedd i adennill tir.

Penio

Hon oedd gêm gyntaf Abertawe o dan ei hyfforddwr newydd Russell Martin, a gafodd lai nag wythnos i baratoi ar gyfer y gêm.

Ond daeth buddugoliaeth i Gasnewydd oddi cartref yn Oldham pan sgoriodd Kevin Ellison gyda dau funud yn weddill o’r gêm.

Daeth Ellison, 42, ymlaen o’r fainc a pheniodd croesiad o Ryan Haynes mewn i’r gôl, yn rhoi tri phwynt i dîm Mike Flynn.

Gêm gyfarfal gafodd Wrecsam 2-2 oddi cartref mewn gornest gyfeillgar yn erbyn Spennymoor Town.