Bydd gan Sol Bamba rôl i’w chwarae yn y Bencampwriaeth Sky Bet gyda Middlesbrough y tymor hwn ar ôl ymladd ei ffordd yn ôl o ganser.

Mae’r amddiffynnwr 36 oed, a gafodd driniaeth ar gyfer lymffoma nad yw’n Hodgkin yn gynharach eleni, wedi bod yn hyfforddi gyda ‘Boro dan lygad barcud y rheolwr Neil Warnock. Bu’n gweithio gydag ef yn ei gyn-glwb Caerdydd, mewn ymgais i adennill ffitrwydd ar ôl cael ei ryddhau ar ddiwedd ei gontract.

Fodd bynnag, ar ôl creu argraff fel hyfforddwr sy’n cynorthwyo rheolwr yr Academi, Craig Liddle, yn ystod taith cyn tymor y Teessiders i Gernyw – ac ar y cae fel eilydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Rotherham, mae yn debyg o aros yn hirach yn ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai Bamba, sy’n chwaraewr rhyngwladol i’r Arfordir Ifori ac a gyhoeddodd ei fod yn “rhydd o ganser” ym mis Mai, yn rhan o dîm Boro y tymor hwn, dywedodd Warnock wrth gynhadledd i’r wasg: “Bydd, ie, mewn rhyw fath o gapasiti”, cyn ychwanegu gyda gwên: “Oni bai ei fod yn mynd i rywle arall. ”

Goresgyn

“Ac os gall gyfrannu ar y maes chwarae, yna mae’n rhaid i ni feddwl am hynny gan ei fod yn rhoi dewis arall i ni.

“Fe wnaeth yn dda iawn i mi yn Rotherham, a oedd yn gêm lletchwith. Mewn ffordd, fe wnaeth hynny fy helpu i edrych arno gan nad oeddwn byth yn meddwl y byddai’n dychwelyd at y math hwn o ffitrwydd, os ydw i’n onest, pan oeddwn yng Nghaerdydd a’r problemau a oedd ganddo.

“Ond pob clod iddo, mae wedi gwneud yn hynod o dda drwy weithio’n galed a goresgyn pethau. Rwy’n credu bod ganddo bethau i’w profi. Rwy’n credu ei fod ychydig yn siomedig i adael Caerdydd ac mae ganddo rywbeth i’w brofi nawr.”