Bydd pedwar o glybiau pêl-droed mwyaf Cymru yn chwarae heddiw – gyda’r chwaraewyr a’r cefnogwyr yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i’r meysydd.

Bydd Caerdydd yn chwarae eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth 2021-22 gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Barnsley, gyda’r gic gyntaf am 3 o’r gloch.

Dywedodd capten yr Adar Gleision Sean Morrison fod yna gryn edrych ymlaen ar gyfer y gêm gystadleuol gartref o flaen cefnogwyr am y tro cyntaf ers mis Chwefror 2020.

“Rwy’n siŵr y bydd gennym ni’r chwaraewyr groen gwydd,” meddai.

“Rydyn ni mor gyfarwydd â cherdded allan i stadia heb ddim sŵn.

Cyffrous

“Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner anodd iawn i bawb. Mae cael pawb yn ôl – a chefnogwyr Dinas Caerdydd yn ôl yn cefnogi’r tîm maen nhw’n ei garu – yn gyffrous i bawb.

“Rwy’n siŵr, fel chwaraewyr, ein bod yn mynd i ffynnu oddi ar hynny.”

Bydd clwb Abertawe yn dechrau eu hymgyrch yn yr un Bencampwriaeth gyda gêm oddi cartref ar Barc Ewood yn erbyn Blackburn Rovers dan arweiniad y prif hyfforddwr newydd Russell Martin.

Er mai dim ond chwe diwrnod yn ôl y cafodd ei benodi, mae penodi cyn amddiffynnwr Norwich wedi creu llawer o gyffro ymhlith cefnogwyr y clwb.

Nid ydi’r Eleirch wedi ennill ar Mharc Ewood ers mis Medi 1971. Bydd y gêm yn dechrau am 3 o’r gloch.

Cyfeillgar

Bydd clwb pêl-droed Casnewydd yn dechrau eu hymgyrch 2021/22 gyda thaith i Barc Boundary i wynebu Oldham Athletic y prynhawn yma.

Daeth County yn agos i sicrhau dyrchafiad y tymor diwethaf ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cynghrair Sky Bet Dau cyn methu ar y diwedd.

Mae Michael Flynn wedi cryfhau ei garfan dros yr haf ar ôl sawl ymadawiad o Rodney Parade, a bydd yn ceisio tywys yr Alltudion un cam ymhellach y tymor hwn.

Bydd gêm gyntaf Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Vanarama gartref yn erbyn Yeovil ddydd Sadwrn, Awst 21.

Heddiw bydd y tîm yn teithio gyda’u rheolwr newydd Phil Parkinson i chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Spennymoor Town, sy’n chwarae un gynghrair yn is na’r Dreigiau sef Cynghrair Genedlaethol y Gogledd.