Mae hyfforddwr ymosod Y Llewod Gregor Townsend wedi galw ar y tîm i greu mwy o gyfleoedd er mwyn curo De’r Affrig.
Mae’r gyfres yn gyfartal ar hyn o bryd, wedi i’r Llewod ennill y prawf cyntaf 22-17, ond tarodd De’r Affrig yn ôl yn yr ail brawf gan ennill 27-9 i sicrhau diweddglo cyffrous i’r gyfres.
Bydd cic gyntaf y trydydd prawf am 5 o’r gloch ddydd Sadwrn (7 Awst) ac yn fyw ar Sky Sports.
Bydd uchafbwyntiau’r gêm yn cael ei dangos ar S4C am 10:30yh.
Mae Warren Gatland, Prif Hyfforddwr y Llewod, wedi gwneud chwech newid ar gyfer y trydydd prawf.
Mae yno sawl Cymro yn dod i mewn i’r tîm cyntaf, gan gynnwys y bachwr Ken Owens, y prop Wyn Jones, yr asgellwr Josh Adams a’r cefnwr Liam Williams.
Byddan nhw’n ymuno ag Alun Wyn Jones, sy’n parhau yn gapten ar y tîm, a Dan Biggar sy’n cadw ei le fel maswr.
Hefyd yn dod i mewn i’r tîm mae’r mewnwr Ali Price, a’r canolwr Bundee Aki.
Mae’r maswr Finn Russell, y clo Adam Beard a’r wythwr Sam Simmonds yn dod i mewn i’r garfan o 23 am y tro cyntaf yn y gyfres, tra bod Taulupe Faletau, Owen Farrell, Anthony Watson a Stuart Hogg yn disgyn allan.
‘Rhaid creu mwy’
Dywedodd yr hyfforddwr ymosod Gregor Townsend fod yn rhaid i’r Llewod “greu mwy” os ydyn nhw eisiau hawlio buddugoliaeth yn erbyn pencampwyr y byd.
“Os ydych chi’n creu cyfleoedd, mae gennych fwy o siawns o ennill y gêm,” meddai
“Efallai y byddwch yn creu mwy drwy bwysau. Gwyddom fod yn rhaid i ni reoli’r gêm yn fwy drwy symud De’r Affrigo gwmpas, gan eu draenio o ynni pryd bynnag y gallwn.”