Bydd Lauren Price o Gaerffili yn bocsio am fedal aur yn y pwysau canol ar ôl iddi drechu Nouchka Fontijn o’r Iseldiroedd.
Enillodd hi’r rownd gynderfynol wedi penderfyniad hollt (3-2) gan y beirniaid, er iddi golli pwynt am afael gormod ar ei gwrthwynebydd yn yr ail rownd.
Bydd y ferch 27 oed nawr yn wynebu Li Qian o Tsieina yn y rownd derfynol ddydd Sul, 8 Awst, gan obeithio gwisgo ei medal aur Olympaidd gyntaf erioed.
Roedd Lauren Price, a oedd yn bencampwr y byd yn 2019, wrth ei bodd gyda’r canlyniad.
‘Gwallgof’
“Mae’n wallgof i fod yn onest,” meddai.
“Roeddwn i’n gwybod byddai her i fi heddiw.
“Rydyn ni wedi brwydro ein gilydd nifer o weithiau ac yn adnabod ein gilydd yn dda.
“Dw i ar ben fy nigon – mae [Fontijn] yn focswraig o’r radd flaenaf.
“Mae pob gornest yn mynd yn anoddach ond dydy hi ddim yn mynd yn anoddach na’r ornest yna.
“Breuddwyd pawb yw cyrraedd y rownd derfynol a dw i’n mynd i wneud fy ngorau i ddod â’r aur yn ôl.”